– Senedd Cymru am 4:53 pm ar 13 Mehefin 2017.
Symudwn ymlaen nawr at y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ar y genomeg—genomeg; ie, dyna ni, ar gyfer y strategaeth meddygaeth fanwl. Mae'n ddrwg gen i, rwyf i wedi cael sbectol newydd ac nid wyf yn gallu darllen yn iawn. Felly, galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething, i gyflwyno'r datganiad.
Diolch, Dirprwy Lywydd.
Ar y 12 Ebrill eleni, cyhoeddais ymgynghoriad y strategaeth genomeg ar gyfer meddygaeth fanwl. Mae'r strategaeth yn amlinellu ein cynllun i ddefnyddio technolegau genomeg newydd i wella iechyd a ffyniant pobl Cymru. Trwy gyfrwng y strategaeth, rydym ni eisiau i bobl ledled Cymru allu cael diagnosis cyflymach a mwy cywir a gwell gwybodaeth i gefnogi penderfyniadau ynglŷn â thriniaeth. Rydym ni hefyd eisiau defnyddio’r technegau diweddaraf i ragweld clefydau’n well a chael gwell dealltwriaeth o achosion o glefydau.
Mae technolegau genetig a genomig newydd yn ein galluogi i ddatblygu dealltwriaeth lawer fwy manwl o'r cysylltiad rhwng ein genynnau a'n hiechyd. Mae profion labordy genetig traddodiadol yn defnyddio dulliau dilyniannu sy'n dadansoddi genyn unigol neu ran o enyn i nodi newidiadau DNA sy'n achosi afiechydon. Fodd bynnag, mae dyfodiad diweddar technegau dilyniannu cenhedlaeth nesaf, mwy newydd, wedi galluogi astudiaeth o ddegau, cannoedd os nad miloedd o enynnau, neu hyd yn oed holl DNA neu genom person, ar yr un pryd. Mae datblygiadau cyfochrog ym maes TG, storio, rhannu a dadansoddi data wedi ein galluogi i graffu ac arsylwi ar lawer iawn o wybodaeth a gynhyrchir gan y math hwn o ddilyniannu, ac yna ei ddadansoddi. Mae’r maes hwn yn newid yn gyflym ac mae cost technolegau genomig yn parhau i ostwng. Mae'r strategaeth yn cynnig sail i ni ddarganfod manteision iechyd ac economaidd y technolegau hyn i bobl Cymru.
Mae'r technolegau genetig a genomig newydd yn dod chwarae rhan gynyddol yn y ddarpariaeth o feddyginiaeth fodern. Maen nhw’n cael effaith ar nifer ehangach o arbenigeddau clinigol, gan alluogi clinigwyr i ddeall clefyd unigol claf yn well a chynnig diagnosis mwy cywir ac amserol. Maen nhw hefyd yn alluogwyr meddygaeth fanwl: datblygu triniaethau penodol ar gyfer unigolion, yn hytrach nag ar gyfer y boblogaeth yn ei chyfanrwydd. Er enghraifft, mae ein dealltwriaeth o sail enetig canser bellach yn cefnogi’r ddarpariaeth o therapïau penodol i gleifion. O ran canser yr ysgyfaint, er enghraifft, nodwyd pedwar arwydd genetig, ac mae'r rhain yn caniatáu i glinigwyr gynnig y triniaethau sydd fwyaf tebygol o atal twf tiwmorau, eu crebachu a chynyddu ansawdd a hyd bywyd. Oherwydd bod gan bob clefyd unigol arwyddion genetig lluosog yn aml, mae'n fwy cost-effeithiol ac yn gyflymach profi ar gyfer yr holl enynnau, neu sawl gennyn, ar yr un pryd. Drwy'r strategaeth, bydd cyllid yn cael ei ddarparu i wasanaeth geneteg meddygol Cymru Gyfan y GIG i ddarparu dadansoddiad panel genynnau i edrych ar dargedau lluosog ar gyfer canser yr ysgyfaint ar yr un pryd. Bydd hyn yn caniatáu i glinigwyr wneud gwell penderfyniadau am opsiynau triniaeth a hefyd yn caniatáu i gleifion gymryd rhan mewn treialon clinigol arloesol.
O ran clefydau anghyffredin, mae technolegau genetig a genomig yn galluogi diagnosis cyflymach a mwy cywir. Ceir sail enetig i’r rhan fwyaf o glefydau anghyffredin, ond mae'n aml yn cymryd amser hir i gleifion dderbyn diagnosis, os cawn nhw un o gwbl. Ac mae hynny’n gadael cleifion a'u teuluoedd heb fawr o wybodaeth ynghylch y peryglon i’w teuluoedd a'r opsiynau ar gyfer triniaeth neu reoli eu cyflwr. Hefyd, mewn cyflyrau cymhleth fel rhai anableddau deallusol, mae angen edrych ar fwy na 1,000 o enynnau. Bydd y gallu i ddadansoddi mwy o enynnau ar yr un pryd yn golygu y bydd gan fwy o gleifion â chlefydau anghyffredin ac anabledd deallusol fynediad at y technolegau diweddaraf ar gyfer diagnosis mwy cywir a chyflymach.
Fodd bynnag, mae mwy i’r strategaeth na gwthio rhagor o DNA trwy ddilynianwyr a dadansoddi data yn unig. Mae hefyd yn golygu cyd-gynhyrchu gwasanaethau a fydd yn cefnogi’r cyhoedd, neu glaf, i gael y prawf mwyaf cywir yn brydlon. Ac, yn bwysig, mae’n ymwneud â’r hyn sy’n digwydd nesaf, ar ôl i ni gael y canlyniad a allai effeithio nid yn unig arnom ni ein hunain yn y dyfodol, ond hefyd ar ddyfodol ein ceraint a’n cydnabod. Mae union natur genynnau a DNA yn golygu y gellir trosglwyddo ein problem ni i’n hanwyliaid. Mae cynghorwyr genetig a gweithwyr meddygol proffesiynol eraill yn gweithio'n ddiflino ar y berthynas rhwng genomeg a'r cyflwr dynol, i egluro'r effaith y gall y wybodaeth hon ei chael ar ein hiechyd, ein llesiant a’r cymorth y gallai fod ei angen arnom.
Mae'n amlwg na fydd manteision i’r claf yn y maes hwn yn cael eu darparu gan y GIG ar ei ben ei hun. Mae cysylltiadau â gweithgareddau ymchwil a diwydiant yn bwysicach nag erioed, ac mae’n rhaid alinio’r ecosystem ehangach ar gyfer genomeg i sicrhau’r manteision iechyd ac economaidd mwyaf posibl i Gymru. Yn ogystal â datblygu gwasanaethau newydd i gleifion yng Nghymru, mae'r strategaeth yn amlinellu camau i ddatblygu gwaith ymchwil mewn geneteg a genomeg, i gynyddu gwybodaeth a sgiliau ymhlith gweithlu’r GIG a'r gweithlu allanol, ac i adeiladu partneriaethau strategol manwl ym maes genomeg ar gyfer meddygaeth fanwl. Yn y maes hynod gystadleuol hwn sy’n ehangu'n gyflym, mae’n bwysig bod Cymru’n gallu cydweithio â phartneriaid ar lwyfan rhyngwladol, gan fod hyn yn denu cyllid ychwanegol, yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu sylfaen sgiliau yng Nghymru, ac yn sail i fabwysiadu triniaethau newydd yn gynt er budd cleifion.
Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae Cymru'n ymuno â'r prosiect 100,000 o Genomau trwy bartneriaeth gyda Genomeg Lloegr. Bydd hyn yn galluogi cleifion yng Nghymru â chlefydau anghyffredin penodol i gymryd rhan mewn prosiect ymchwil arloesol sylweddol, sydd â’r potensial i gael diagnosis cyflymach a mwy cywir a allai ddod o ddilyniannu genomau cyfan. Mae'r prosiect wedi denu gwerth £1 filiwn o gyllid gan y Cyngor Ymchwil Meddygol, ynghyd â £2.3 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru, ac mae’n cefnogi swyddi o ansawdd uchel ac yn dod â manteision economaidd ychwanegol yma i Gymru.
Datblygwyd y strategaeth genomeg ar gyfer meddygaeth fanwl gan y tasglu genomeg, wedi ei seilio ar gydweithio agos rhwng cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru, y GIG, y trydydd sector a sefydliadau addysg uwch. Mae'r tasglu wedi gweithio'n galed i ymgynghori trwy gydol y broses, ac i sicrhau bod cymaint o randdeiliaid â phosibl wedi gallu lleisio eu barn wrth ddatblygu'r strategaeth. Mae'r strategaeth yn canolbwyntio nawr ar ddatblygu galluoedd genomeg, gan fod y technolegau hyn yn dod yn fwyfwy fforddiadwy ac yn cael effaith gadarnhaol ar feddygaeth fanwl a rheoli clefydau heintus.
Fodd bynnag, ni fydd buddsoddi mewn genomeg yn unig yn ddigon i ddarparu meddygaeth fanwl. Mae technolegau eraill fel delweddu, astudiaethau moleciwlaidd, monitro amser real o salwch a dadansoddi data oll yn chwarae rhan bwysig, ochr yn ochr â’r dulliau clinigol traddodiadol o asesu clefyd rhywun. Mae angen integreiddio’r ddiagnosteg hon, wrth gwrs, gyda datblygiad therapiwteg penodol newydd, sy'n cynnwys therapiwteg uwch sy'n deillio o ddulliau therapi celloedd a genynnau.
Mae'n amlwg bod yr heriau o'n blaenau yn sylweddol, fel y maen nhw mewn sawl maes meddygaeth arall a'r gwasanaeth iechyd. Bydd partneriaeth bellach, wrth gwrs, yn angenrheidiol i wneud meddygaeth fanwl yn arfer cyffredin yn ein gwasanaeth iechyd gwladol. Ond mae’r strategaeth genomeg ar gyfer meddygaeth fanwl hon yn sail i’r hyn a ddylai fod yn ddyfodol disglair i sicrhau manteision iechyd ac economaidd technolegau genomeg yng Nghymru.
Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Mae genomeg wedi galluogi datblygiadau arloesol o ran ymchwil a’r ffordd y caiff meddygyniaeth ei defnyddio, ac rwy’n credu ei fod yn destun gobaith mawr i ni oll yn y dyfodol. Rydym ni i gyd yn ymwybodol o’r argyfwng sy'n wynebu pobl, oherwydd y gorddefnydd o wrthfiotigau a’r bacteria sy’n addasu’n dragwyddol i gynhyrchu arch-fygau yr ymddengys eu bod yn goroesi popeth. Mae dod o hyd i ddewisiadau eraill ar gyfer trin afiechydon a achosir gan facteria sy'n gwrthsefyll gwrthfiotigau yn dibynnu ar yr astudiaeth o enomeg bacterioffag. Bydd gallu sicrhau bod effeithlonrwydd a chryfder ein cyffuriau mor fawr â phosibl yn allweddol o ran gwneud y gorau o therapi cyffuriau. Felly, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn croesawu'r sylw pwyslais hwn ar faes meddygaeth fanwl, ac mae'r ymgynghoriad a'r strategaeth ddilynol wedi gosod ffiniau y gallwn archwilio sut y gallwn ddatblygu galluoedd Cymru i chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o ddatblygu meddygyniaethau manwl yn unol â nhw.
Nawr, wrth astudio’r adroddiad, Ysgrifennydd Cabinet, mae gen i bedwar cwestiwn yr hoffwn eu gofyn i gael mwy o ymhelaethiad. Mae Blaenoriaeth 2 yn crybwyll gofynion seilwaith TG. Nawr, mae'n amlwg bod angen seilwaith cyfathrebu dibynadwy o ansawdd uchel i alluogi’r cyfleusterau hyn i ehangu ledled Cymru, ac nid yn unig mewn canolfannau trefol, yn enwedig os ydyn nhw’n mynd i fod yn gysylltiedig â phrifysgolion ac â gwahanol ganolfannau ymchwil mewn ysbytai. Felly, pa sicrwydd all Ysgrifennydd y Cabinet ei roi i ni y bydd pob cwr o Gymru yn cael ei gysylltu â rhwydwaith cyfathrebu cyflym fel y gallwn ni wir wneud y gorau o hyn? Yn fy etholaeth fy hun, mae gen i nifer o gwmnïau hynod arloesol sy'n darparu offer meddyginiaethol manwl i bedwar ban byd ac sydd wedi adeiladu busnesau sy'n gwneud yn eithriadol o dda, ond bu’n rhaid iddyn nhw wynebu'r her gyfathrebu dro ar ôl tro ar ôl tro i alluogi eu busnesau a'u cyfleusterau ymchwil, a'r cydweithrediad sydd ganddyn nhw gyda phartneriaid ledled y byd dyfu’n wirioneddol. Felly, dyna fyddai fy nghwestiwn pendant cyntaf.
Yn ail, mae'r strategaeth yn cydnabod bod setiau data mawr yn erfyn hanfodol a bod heriau o ran gwneud data’n ddienw. Mae hefyd yn sôn am yr angen i gael mynediad at samplau cleifion ac am yr integreiddio gyda SAIL. Pa brosesau, Ysgrifennydd Cabinet, sydd ar waith i ddiogelu data, i amddiffyn y claf a chyfrinachedd cleifion? Mae ymosodiadau seiber yn fygythiad cynyddol, ac rwy’n meddwl bod yn rhaid i ni fod yn ymwybodol o ddiogelwch. Rwy'n credu ei bod hi’n bwysig iawn, hefyd, i ni sicrhau bod cleifion yn gwbl sicr o ran gwybod os byddant yn cyflwyno unrhyw ran o'u triniaeth neu eu canlyniadau i gael eu dadansoddi yn y setiau data hyn, na fydd hynny’n cael ei ddefnyddio yn eu herbyn nhw na’u holynwyr, yn enwedig o ran hawliadau yswiriant, gan fod cwmnïau yswiriant bob amser eisiau gwybod beth yw hanesion genetig pobl, a’r holl ddiwydiant hwnnw sy’n tyfu ac yn dechrau esblygu. Felly, hoffwn i ddeall yr elfennau diogelwch yn iawn.
Ysgrifennydd Cabinet, pa gymorth ydych chi wedi ei roi ar waith i hyfforddi pobl yn y maes hwn yng Nghymru? Efallai y gallech chi amlinellu pa gamau sy'n cael eu cymryd gyda'r byrddau iechyd, gyda'r sefydliadau ymchwil a chyda'r prifysgolion i ennyn diddordeb mwy o’n pobl ifanc yn y maes hynod bwysig hwn sy’n tyfu’n gyson.
Yn olaf, yn yr adroddiad, mae'n sôn y
'Bydd achos busnes yn cael ei ddatblygu erbyn diwedd 2017' o ran lleoliad labordy genomeg. Roeddwn i’n meddwl tybed pa gynnydd sydd wedi ei wneud yn hyn o beth.
Mae hwn yn faes ymchwil hynod gyffrous. Rwy’n croesawu'r datganiad yn llwyr, a byddwn yn eich annog chi, a byddwn eisiau eich cefnogi chi, i neilltuo cymaint o ymdrech ac arian ag y gallwn i'r maes hwn, gan fy mod i’n gwbl grediniol bod hon yn un ffordd nid un unig o ddiogelu ein hunain yn y dyfodol , ond o fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau iechyd enfawr sydd gennym ni, nid yn unig yn ein gwlad ni, ond ledled y byd.
Diolch am y sylwadau a’r cwestiynau. Mae'n ddiddorol eich bod chi wedi dechrau gydag ymwrthedd gwrthficrobaidd—roedd eich cydweithiwr doeth yn union ar y dde i chi yn rhan o'r grŵp trawsbleidiol ar wyddoniaeth ac, yn wir, roedd hwn yn bwnc trafod a gawsom ni yr wythnos diwethaf gyda David Rees a Simon Thomas—felly, heriau perthnasol ar gyfer y presennol, yn ogystal ag ar gyfer y dyfodol, yn y ffordd yr ydym ni’n datblygu ein gallu i ddeall cyflyrau dynol, a hefyd, wedyn, i helpu i’w trin a’u rhagweld nhw.
Gan droi at eich cwestiynau ynglŷn â’r her gyfathrebu, wel, rhywfaint o hyn, os mynnwch, yw’r her dechnegol o sut yr ydych chi’n trosglwyddo data, ond rwy’n meddwl fod llawer ohono’n ddiwylliannol, a dyna pam mae'r tasglu genomeg wedi bod yn allweddol iawn o ran mynd ati’n rhagweithiol i holi randdeiliaid, i fod eisiau siarad â nhw, gyda'r nifer o ymatebion ymgynghori a dderbyniwyd, ac rwy’n disgwyl dod yn ôl ar sail y cyngor y byddaf yn ei gael gan y tasglu, ar ôl cynnal yr ymgynghoriad, i gyhoeddi wedyn y cam nesaf o ran sut y byddwn yn datblygu hynny. Mae'n bwysig bod gennym ni sianelau sy’n agored, a diwylliant sy'n agored ynghylch sut y gall pobl siarad â'i gilydd. Oherwydd, fel y dywedais yn fy natganiad, mae hyn angen y gwasanaeth iechyd gwladol, y sector prifysgolion, ond mae hefyd angen y trydydd sector ac, yn wir, diwydiant i fod yn rhan o'r ateb. A dyna’n rhannol yw fy mhwynt ynglŷn â sut yr ydym ni’n cyfuno ein hymchwil, oherwydd er y bydd swyddogaeth labordy ganolog, ac er bod gennym ni ganolfan genomig Cymru, mae’n rhaid i lawer o hynny fod yn rhithwir, oherwydd ni allwch ddisgwyl gwasgaru’r holl staff hynny o amgylch y wlad, ond mae'n rhaid iddyn nhw allu deall yr hyn sy'n digwydd yn y wlad hon ac, yn wir, y cydweithio â Lloegr—rydym ni’n rhan o’r Prosiect 100,000 o Genomau—yn ogystal ag ar sail ehangach, hefyd. Felly, rwy’n cydnabod yr her yr ydych chi’n ei chodi i wneud yn siŵr nad yw'n ddim amgenach na siop gaeedig i grŵp bach o bobl mewn un rhan o'r wlad. Nid dyna’r dull yr ydym ni’n ei fabwysiadu, yn sicr. Gobeithio bod y sicrwydd hwnnw’n ddefnyddiol.
O ran diogelu data, wrth gwrs, mae'r ymosodiadau seiber-ddiogelwch diweddar wedi tynnu sylw at yr heriau sy'n bodoli gan fod grŵp o bobl ddiegwyddor galluog sy'n barod i geisio defnyddio data at eu dibenion eu hunain bob amser. Er ein bod ni mewn sefyllfa lawer gwell na Lloegr o ran yr hyn a ddigwyddodd gyda'r ymosodiad diweddar, ni ddylai’r un ohonom ni gymryd hynny’n ganiataol na bod yn fuddugoliaethus yn ei gylch. Mae angen i ni sicrhau ein hunain yn gyson bod y ffordd yr ydym ni’n defnyddio data yn foesegol, ond hefyd ein bod ni’n diogelu data sensitif am gleifion a staff yn briodol o ran sut yr ydym ni’n defnyddio’r rheini ar draws y system. Mae'r data SAIL yn enghraifft dda o ble mae gennym ni ddata dienw sydd o fudd gwirioneddol. Mae'n enghraifft dda hefyd o fod yn wlad fach sy'n gallu gwneud dewisiadau ar sail genedlaethol a cheisio cael synnwyr gwirioneddol o genhadaeth genedlaethol. Mae hynny’n ymwneud yn fwy â’r hyn y mae angen i ni ei wneud, ond bydd hynny hefyd yn cyfrannu at y ffordd yr ydym ni’n ymdrin â threialon clinigol. Mewn nifer o ardaloedd yng Nghymru, rydym ni’n gwneud yn dda iawn gyda threialon clinigol, ond mae angen i ni gydnabod hefyd bod meysydd lle gallem ni wneud hyd yn oed yn well hefyd. Rwy'n credu bod hwn yn faes lle’r ydym ni’n meddwl y gallem ni wneud yn well fyth eto, i adeiladu ar ein cryfderau presennol ond hefyd i ddeall lle’r ydym ni’n credu bod angen gosod gwahanol lefel o uchelgais a chyflawniad hefyd. Unwaith eto, rwy’n cydnabod y pwyntiau yr ydych chi’n eu gwneud am ddiogelu data cleifion yn briodol yn y ffordd yr ydym ni’n sefydlu ein systemau—y caledwedd, y meddalwedd, a’r diwylliant o ran sut yn union y mae’r data hynny’n cael eu defnyddio.
O ran y pwyntiau am fuddsoddi yn y gweithlu, mae hon yn un o'r pum thema o'r pwyntiau gweithredu sydd wedi eu cyhoeddi yn y strategaeth yr ydym ni newydd ymgynghori arni—sut rydym ni’n deall yn iawn sut rydym ni’n buddsoddi yn ein gweithwyr, i gael rhai o’r— [Anghlywadwy.] yn gywir—gyda fy nghydweithiwr Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, yn siarad am sut yr ydym ni’n cael pethau'n iawn ac am ddiwylliant ein hysgolion. Felly, rydym ni’n deall sut y mae angen sgiliau newydd arnom ni a chaffael y sgiliau newydd hynny gan weithlu’r genhedlaeth nesaf—ein bod yn gofalu amdanoch chi ac amdanaf i yn ein henaint, os byddwn fyw, ond hefyd o ran yr hyn sy’n digwydd nawr i’r bobl sydd eisoes yn mynd i mewn i’n system. Dyna ran o’r rheswm pam mae cydweithio gyda diwydiant a’r sector prifysgolion yn bwysig iawn, oherwydd nid yw’r gweithlu’n mynd i ymwneud â sut y mae’r GIG yn cynllunio ei ran unigol ohono, hefyd yn unig. Er ein bod ni’n disgwyl gweld INTPs wrth i ni ddatblygu'r strategaeth, ac wrth i ni ddod i'r casgliad beth fydd y strategaeth ar ddiwedd yr ymateb i'r ymgynghoriad arni, a sut yr ydym ni’n disgwyl gweld hynny’n cael ei gyflwyno yn INTPs sefydliadau byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd unigol, ond hefyd y gwaith gyda gwasanaeth genetig meddygol Gymru gyfan, ynghyd â'r corff addysg iechyd newydd yr ydym ni’n mynd i’w greu. Bydd angen i ni gymryd camau i greu hwnnw yn ystod y flwyddyn hon, ar ffurf gysgodol, i baratoi ar gyfer mis Ebrill 2018, pan fydd ar waith. Felly, ceir cydnabyddiaeth ddidwyll a nodir yn y strategaeth o’r hyn y bydd angen i ni ei wneud a sut yr ydym ni’n cynllunio ar gyfer y gweithlu hwnnw a sut yr ydym ni’n amlwg—ac, unwaith eto, ceir heriau moesegol yn hyn hefyd—yn mapio gwasanaeth lle mae gan y gwasanaeth iechyd ddiddordeb pendant iawn yn y data a ddefnyddiwn, sy'n cael eu rhoi i'r gwasanaeth iechyd, a sut yr ydym ni’n gweithio, mewn ffordd aeddfed, gyda phobl ym myd diwydiant, yn ogystal â'r sector ymchwil addysg uwch, ond mae gennych chi’r un—[Anghlywadwy.]—diogelu ethos yr hyn yr ydym ni eisiau ei wneud, a gwerth yr hyn yr ydym ni’n ei wneud, yn hytrach na rhoi'r wybodaeth honno i rywun arall ei gwerthu yn ôl i ni am elw. Felly, ceir heriau yn hynny o beth, ond mae hynny’n ymwneud â datblygu'r gweithlu, hefyd.
Mae hyn yn arbennig o ddiddorol gan ei fod yn newydd, ac rydym ni’n gwneud dewisiadau nawr nad ydym ni wedi gorfod eu gwneud, ond mae hefyd mae’n berthnasol i'ch pwynt bod mantais sylweddol i'w chael, o safbwynt gwella iechyd ond hefyd o safbwynt economaidd.
Rwy’n sicr yn croesawu'r ymgynghoriad. Mae hyn, heb os, yn faes o ddatblygiad meddygol sydd â photensial enfawr, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ei amlinellu. Wrth gwrs, mae'n cyd-fynd â’r agenda atal clefydau a diagnosis cynnar fel modd o wella canlyniadau i gleifion, gan arbed arian i'r GIG hefyd, wrth gwrs. Ceir arbedion enfawr y gellir eu gwneud yma trwy dargedu triniaeth yn ofalus gan ddefnyddio’r technolegau newydd hyn, felly mae unrhyw fuddsoddiad yma yn arian a fydd yn cael ei wario’n ddoeth.
Mae gen i dri chwestiwn, ac mae’r cyntaf ohonynt yn ymwneud â buddsoddi. Pa gynlluniau tymor canolig neu frasamcanion mwy hirdymor y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn eu gwneud ar gyfer dyrannu adnoddau yn y maes newydd hwn o ymchwil a thriniaeth feddygol, gan fod hwn yn rhywbeth sy’n siŵr o ddatblygu ac yn siŵr o fod yn fwy o ffynhonnell fuddsoddi i arbed wrth i amser fynd heibio?
Yn ail, mae'r datganiad yn nodi’n eglur iawn yr agweddau technegol a gwyddonol ar y dechnoleg ddatblygol hon, ond nid cymaint yr agwedd foesegol ac emosiynol. Rydym ni wedi cyffwrdd ar yr agwedd foesegol yn y cyfeiriadau at ddata yn y cwestiynau gan Angela Burns. Ond o ran yr ochr emosiynol, yn enwedig yn gysylltiedig ag atal a rhagweld salwch efallai—. Ceir tystiolaeth o ganser etifeddol penodol yn fy nheulu i. Mae DNA fy niweddar fam wedi cael ei storio. Rwyf wedi dewis peidio ag ymchwilio a wyf i mewn perygl ar hyn o bryd. Cynhyrchodd ffrind agos i mi raglen deledu a oedd yn edrych a oedd hi mewn perygl o ddatblygu’r canser a hawliodd fywyd ei mam, a phenderfynodd ar ddiwedd y daith honno nad oedd hi’n dymuno gwybod a oedd hi wedi ei rhaglennu felly. Felly, ceir rhai cwestiynau emosiynol a moesegol anodd iawn yma. Tybed pa gynlluniau sydd yna i fuddsoddi yn y cymorth emosiynol i deuluoedd ac unigolion sy'n cael eu hunain mewn sefyllfa lle, efallai, y gallai’r dechnoleg hon fod o ddefnydd iddynt, ond bod ganddynt ofnau am yr hyn y byddai hynny’n ei olygu.
Yn drydydd, mae hwn, wrth gwrs, yn brosiect byd-eang—yn brosiect lle gall Cymru fod yn falch o'r arloesedd yr ydym ni wedi cyfrannu ato dros y blynyddoedd. Ond bydd llawer o'n hymchwilwyr, wrth gwrs, yn rhan o waith ymchwil a fframweithiau pan-Ewropeaidd. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gynnig sylwadau efallai ar ba fesurau diogelwch y mae angen eu rhoi ar waith i ddiogelu hynny wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd?
Diolch am y sylwadau a’r cwestiynau. Byddaf yn ymdrin â'ch pwynt olaf yn gyntaf. Mewn llawer o feysydd o ymdrech ac ymchwil gwyddonol, rydym ni’n cydnabod bod risgiau a heriau gwirioneddol i’r Deyrnas Unedig yn y trafodaethau Brexit. Rydym ni wedi bod yn onest am hynny yn y trafodaethau gyda’ch plaid chi, ac yn y Papur Gwyn sydd gennym ni ac yn y sgyrsiau parhaus y bydd angen eu cael, nid yn unig gyda’r gymuned ymchwil, ond rhwng gwahanol Lywodraethau’r Deyrnas Unedig hefyd, am ein dull o ymdrin â hynny. A dweud y gwir, gallem weld proses adael sy'n ynysu gwyddonwyr—neu, yn wir, os nad yw’n eu hynysu, gwneud cydweithio’n fwy anodd. Er y byddai'n broblem i Ewrop gael ei ynysu neu’n ei gwneud hi’n fwy anodd cydweithio gyda gwyddonwyr o'r DU, mewn gwirionedd, rwy’n meddwl y byddai gennym ni fwy i'w golli yn hynny o beth o ran y gronfa o wybodaeth ryngwladol sy'n bodoli. Felly, mae hyn yn sicr o fudd i ni, a cheir llawer o ddiddordeb o safbwynt Ewropeaidd mewn parhau i gydweithio yn y maes hwnnw. Ni ddylai'r un ohonom ni gymryd hynny’n ganiataol. Mae'n rhaid iddo fod yn rhan bendant o bwyslais holl Lywodraethau’r Deyrnas Unedig, o ran ein safbwynt trafod ar lefel y DU, ac, yn yr un modd, cynnal y cysylltiadau hynny sy'n bodoli. Rwy'n cydnabod y pryder sylweddol sy'n bodoli yn y gymuned wyddonol ac ymchwil am ein perthynas gyda phartneriaid Ewropeaidd yn y dyfodol.
O ran y pwyntiau ehangach a wnaethoch am arbedion ariannol a buddsoddi yn y maes hwn, fel y dywedais, buddsoddwyd £2.3 miliwn gennym i Gymru fod yn rhan o’r Prosiect 100,000 Genom. Rydym ni hefyd yn buddsoddi £6.8 miliwn dros y pum mlynedd nesaf yn y maes hwn, gan ein bod ni’n cydnabod bod angen cyfrannu arian i ddatblygu'r gwasanaeth. Ond, yn yr un modd, mae rhywbeth ynghylch deall beth sy'n digwydd ar ôl hynny, oherwydd, er bod arbedion tymor canolig a thymor hwy i’w gwneud, rydym ni hefyd yn gwybod, pan fydd datblygiadau newydd yn cael eu gwneud, eu bod nhw’n aml yn ddrud ar yr adeg gychwynnol. Ac mae hon yn enghraifft dda o hynny, oherwydd, a dweud y gwir, wrth i’r gost leihau, a’i bod yn fwy tebygol y gallwn ni ddefnyddio hyn mewn ffordd ehangach mewn meddyginiaeth ac o ran diagnosis ac yna gwneud dewisiadau ynghylch triniaeth—yn union fel yr ydym ni’n cael pob cam newydd o unrhyw feddyginiaeth fanwl sy'n cael ei gyflwyno, mae'n aml yn ddrud iawn ar y cychwyn, a’r her yw faint o gynnydd y gallwn ni ei wneud yn ein dealltwriaeth ac wedyn gallu gwneud hynny’n gyffredinol therapiwtig fel y gallwn ni ddeall sut y gallwn ddefnyddio hynny’n ymarferol wedyn. Ond rydym ni’n gwybod, drwy'r arbedion y byddwn ni’n eu gwneud, y bydd dewisiadau anodd o ran cost triniaethau newydd a therapïau newydd sy'n dod i’r fei, ac ni fyddwn eisiau ceisio esgus bod hwn yn faes syml o enillion iechyd i’w wneud am gost isel. Bydd dewisiadau anodd i chi a mi a phob gwleidydd arall yn y Siambr hon ynglŷn â sut a ble yr ydym ni’n gwneud y penderfyniadau buddsoddi hynny dros weddill tymor y Cynulliad hwn ac yn y dyfodol.
O ran eich pwynt olaf, lle soniasoch am faes cyffredinol cwnsela genetig, fel y soniais yn fy natganiad, mae gennym ni eisoes dîm o gwnselwyr genetig sy’n ymdrin ag amrywiaeth o wahanol gyflyrau, nid yn unig y clefydau a’r cyflyrau anghyffredin sy'n bodoli—ond, llawer o bobl, wrth iddyn nhw symud ymlaen a dewis dechrau teulu, yn aml ceir dewisiadau sy'n cael eu gwneud fel rhan safonol o'r sgwrs am IVF, os yw teuluoedd yn mynd trwy hynny. Byddant yn cael sgwrs—byddant yn cael eu cyfeirio at gwnsela genetig ac yn cael sgwrs am yr hyn sy'n bosibl, ac mae honno'n rhan bwysig o'r broses honno. Mae'n dod yn fwy cyffredin hefyd. Rwy'n credu mai’r her i ni fydd nid yn unig sut yr ydym ni’n dibynnu ar arbenigedd penodol o fewn y gwasanaeth iechyd, ond sut yr ydym ni’n gwneud hyn yn rhan naturiol o’r sgwrs i weithwyr gofal iechyd proffesiynol. Ac felly, wrth edrych ar gydweithwyr sy’n eistedd y tu ôl i’ch ysgwydd dde, ym maes ymarfer cyffredinol, mae angen deall sut y bydd hyn yn edrych, yn ogystal ag mewn meysydd arbenigol o driniaeth y tu hwnt, ac nid yn unig gyda meddygon, ond pob math o therapi arall, i ddeall, os ydym ni’n cael sgwrs am opsiynau triniaeth, sut y byddem ni, mewn ffordd sensitif, yn deall ac yn cyflwyno opsiynau posibl i bobl am yr hyn y byddant yn dewis ei wneud. Oherwydd rydych chi yn llygad eich lle: bydd pobl wahanol yn gwneud gwahanol ddewisiadau, ac nid yw hwn yn faes lle byddwn yn ei gwneud hi’n ofynnol i bobl ymddwyn mewn ffordd benodol. Ond mae’n ymwneud â sut yr ydym ni’n cael sgwrs gytbwys gyda'r dinesydd am y datblygiadau sy'n bosibl a sut y gallan nhw ddeall eu risgiau posibl a'r dewisiadau cytbwys y maen nhw eisiau eu gwneud.
Unwaith eto, rydych chi’n meddwl am amrywiaeth o feysydd yn ystod beichiogrwydd a mamolaeth: mae'n ddewis ynghylch a yw pobl eisiau cael amrywiaeth o brofion ar iechyd neu natur eu plentyn yn y groth. Ac mae pobl eisoes yn gwneud y dewisiadau cytbwys hynny, oherwydd rydym ni wedi gwneud y sgwrs honno’n rhan gyffredin o’n gweithlu bydwreigiaeth, ac fe’i gwneir mewn modd sensitif gyda rhieni newydd. Mae hyn yn ymwneud â gwahanol lefel o sgyrsiau am wahanol gyflyrau, gwahanol risgiau a allai fod yn gynhenid o ran pwy ydym ni a phwy y gallem ni fod yn y dyfodol, am y ffordd y caiff y sgwrs honno ei chynnal mewn ffordd sy'n sensitif ac yn hynod broffesiynol ac yn paratoi pobl i wneud y dewisiadau unigol hynny iddyn nhw a'u teuluoedd.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n wirioneddol gynhyrfus am botensial y strategaeth hon, nid yn unig fel ymyriad iechyd, ond fel ymyriad economaidd, hefyd. Genomeg yw un o'r diwydiannau sy’n datblygu gyflymaf yn y pedwerydd chwyldro diwydiannol y ceir cymaint o sôn amdano. Rydym ni wedi trafod rhai o'r manteision iechyd heb eu hail—mae sôn y gallwn ni ddisgwyl triniaethau canser, er enghraifft, sydd 20 gwaith yn fwy grymus na thriniaethau presennol. Ond rwy’n cael fy nghalonogi’n arbennig ein bod ni wedi edrych y tu hwnt i'r effaith ar iechyd i ystyried sut y gallem ni fod yn arweinwyr byd-eang yn y wyddoniaeth ryfeddol hon.
Ond mae angen i’n cywirdeb gyfateb i’n huchelgais, a byddwn yn annog Ysgrifennydd y Cabinet i fod yn eglur o ran ble yn union y mae mantais gystadleuol Cymru yn y maes enfawr hwn sy'n datblygu'n gyflym. Yn gyffredinol, er enghraifft, Caergrawnt neu goridor yr M1 sy’n denu buddsoddiad tramor uniongyrchol o ansawdd yn y gwyddorau bywyd, a allai adael Cymru yn ymgeisio am yr hyn sy’n weddill. Felly, a gaf i ofyn iddo ddweud wrthym ni pa mor eglur yw e o ran lle yn union y gallwn ni wneud cyfraniad unigryw, lle gallai ein harbenigedd presennol gynnig y fantais gystadleuol i ni? Ac, unwaith y byddwn ni'n eglur ynghylch hynny, yna mae'n rhaid i ni fod yn ddidrugaredd wrth fynd ar drywydd y cyfleoedd hyn. Diolch.
Rydych chi’n codi pwynt diddorol, ac rwyf wrth fy modd bod rhywbeth y mae Lee Waters wedi codi ar ei draed amdano a dweud ei fod yn wirioneddol gynhyrfus yn ei gylch. Ond, wyddoch chi, rydych chi’n codi pwynt pwysig am y ffordd yr ydym ni’n targedu ein meysydd gorau i sicrhau buddion go iawn, nid yn unig o ran iechyd, ond, rydych chi'n iawn, o ran y sector economaidd. Ac, wrth gwrs, lansiwyd y strategaeth yn 2013 ar y cyd gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Gweinidog â chyfrifoldeb dros yr economi ar y pryd.
Bu cydnabyddiaeth erioed o’r ddwy fath o fantais i’w sicrhau. Rydych chi'n iawn am y sector gwyddorau bywyd fel maes ar gyfer twf yr ydym ni wedi ei weld eisoes, ond nid yw’n ymwneud â cheisio cystadlu’n uniongyrchol â'r hyn sy'n digwydd yng Nghaergrawnt a’r cyffiniau. Bydd amrywiaeth o bobl a fydd bob amser yn dewis mynd yno yn gyntaf, ond, mewn gwirionedd, yr hyn rwy’n meddwl sy’n wirioneddol galonogol yw’r ffordd yr ydym ni’n sefydlu ein hunain yng Nghymru i ddeall gwahanol fath o sgwrs gyda'r diwydiant fferyllol, a fydd, wedi'r cyfan, yn dal i fod yn gyfrannwyr arwyddocaol at fuddsoddi yn nyfodol ymchwil ac arloesi meddygol, ac yn ein sector addysg uwch—ac, i ddychwelyd at y pwyntiau a wnaeth Angela Burns, am y ffordd yr ydym ni’n defnyddio data yng Nghymru hefyd. Oherwydd yr hyn nad oes gan y system yn Lloegr yw dull cenedlaethol wirioneddol integredig, ond mae gennym ni hynny yma. Felly, mae hynny'n golygu ein bod ni’n mynd i allu cyflwyno dull cenedlaethol o ymdrin â phatholeg, ac ni all hynny ddigwydd yn Lloegr oherwydd bod ganddyn nhw gymaint o wahanol gyrff sy’n faen tramgwydd o ran sut y byddant yn gwneud gwahanol ddewisiadau.
Nawr, heb ymgolli mewn gwleidyddiaeth bleidiol o ran sut y maen nhw wedi llwyddo i gyrraedd y pwynt hwnnw, yn y system yng Nghymru, mae'n fantais gystadleuol wirioneddol i ni. Yr hyn y bydd angen i ni fod yn well am ei wneud, nid yn unig yn ystod y blynyddoedd nesaf, ond yn ystod y degawd nesaf a mwy, yw ein gallu i wneud dewisiadau cenedlaethol gyda dim ond 10 o sefydliadau yn y maes iechyd—y byrddau a’r ymddiriedolaethau iechyd ac yna'r Llywodraeth gyda nhw hefyd—a sut rydym ni’n sefyll ochr yn ochr â phobl i wneud y dewisiadau hynny. Oherwydd rydym ni eisoes wedi gweld nifer o gwmnïau fferyllol yn dewis buddsoddi yng Nghymru, oherwydd yr amgylchedd yr ydym ni’n ei greu, ac oherwydd ein bod ni’n gallu cael sgwrs sy'n cydnabod y potensial heb beryglu ein gwerthoedd. Dyna lle mae angen i ni fod hefyd. Felly, pan fyddaf yn cael sgyrsiau draw yn y ganolfan gwyddorau bywyd, mae pobl yn wirioneddol gadarnhaol ynghylch penderfynu symud rhai o'u buddsoddiadau i Gymru oherwydd hynny. Ond mae hwnnw'n bwynt o wahaniaeth i’r hyn sy'n digwydd yn yr ardaloedd hyn. Rwy’n cydnabod eich bod chi wedi sôn am Gaergrawnt, yn hytrach na’r ardaloedd hyn i ni fanteisio arnyn nhw. Byddaf yn fwy na pharod, unwaith y byddwn ni wedi cytuno ar gam olaf y strategaeth, mewn ymateb i'r ymgynghoriad, i allu rhoi mwy o fanylion am y meysydd penodol yn y sector gwyddorau bywyd yn fwy cyffredinol yr ydym ni’n disgwyl eu targedu a chael budd gwirioneddol ohonyn nhw.
Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae meysydd genomeg a meddygaeth fanwl yn allweddol i ennill y rhyfel yn erbyn canser ac yn allweddol i ddyfodol ein gofal iechyd. Felly, rwy'n falch iawn o gefnogi a chroesawu’n fawr strategaeth genomeg a meddygaeth fanwl y Llywodraeth. Pan edrychwn ni ar ganser yr ysgyfaint, er enghraifft, sy'n gyfrifol am chwarter yr holl farwolaethau o ganser yng Nghymru, nid yw meddyginiaethau traddodiadol yn effeithiol iawn. Trwy dargedu'r newid genetig penodol gyda meddyginiaeth fanwl, gallwn gynyddu cyfraddau goroesi, yn enwedig mewn canserau yr ysgyfaint celloedd mwy.
Mae Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain a Cancer Research UK wedi bod yn arwain y galwadau am strategaeth i Gymru ar gyfer meddygaeth haenedig neu fanwl ers nifer o flynyddoedd, ac mae'n newyddion gwych fod gennym ni un o’r diwedd. Byddaf i, ynghyd â'm plaid, yn gweithio gyda chi er mwyn sicrhau bod y strategaeth hon yn llwyddiannus, ac, yn yr ysbryd hwnnw, mae gen i ambell i gwestiwn ynghylch sut y gellir rhoi’r strategaeth ar waith.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r strategaeth yn amlygu’r angen i sicrhau y caiff data eu rhannu’n briodol ar gyfer y datblygiad gwasanaeth a’r ymchwil. Pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda'ch cydweithwyr ar draws y DU am y ffordd orau y gallwn ni rannu data i wella ymchwil a datblygiad gan ddiogelu gwybodaeth cleifion unigol? Wrth symud ymlaen, mae triniaethau arloesol newydd yn allweddol i lwyddiant y strategaeth. Ysgrifennydd y Cabinet, sut allwch chi sicrhau y bydd syniadau cydgysylltiedig o ran gwerthuso’r triniaethau newydd hyn? Sut wnewch chi sicrhau bod Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, Gwasanaeth genetig meddygol Cymru gyfan, Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan, a, lle bo'n briodol, y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Iechyd a Gofal, yn gweithio'n agos gyda'r diwydiant fferyllol? Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, sut wnewch chi sicrhau y bydd gwasanaethau clinigol a geneteg glinigol yn cael eu mabwysiadu a’u defnyddio ledled Cymru, a sut y bydd llwyddiant yn cael ei fonitro a'i asesu?
Diolchaf i chi unwaith eto am eich datganiad ac am gyflwyno’r strategaeth hon, a fydd yn helpu i wella sut yr ydym ni’n datblygu a sut yr ydym ni’n darparu triniaethau iechyd yn y dyfodol. Diolch yn fawr.
Diolch i chi am y sylwadau a'r cwestiynau yna. Rwy'n credu ei bod yn ddefnyddiol, pan fyddwn ni’n sôn am feddygaeth fanwl, i ddeall, yn y gorffennol, ein bod ni’n meddwl y byddai cyffuriau neu driniaethau mawr nerthol i ddarparu gwelliannau ar raddfa eang ar draws y boblogaeth gyfan neu ar draws grwpiau cyfan o bobl. Rydym ni’n deall yn gynyddol ei bod yn annhebygol mai dyna fydd y ffordd y bydd meddygaeth yn datblygu. Ni fu amrywiaeth o’r cyffuriau nethol tybiedig hynny mor effeithiol ag y byddem ni wedi dymuno iddyn nhw fod, yn ychwanegol i’r ffaith i ni ddod o hyd wedyn i wahanol ddefnydd ar eu cyfer nhw hefyd. Mae hyn yn ymwneud â deall sut y mae gennym ni’n fwy manwl ddull mwy unigoledig o gael sicrwydd diagnostig ac yna dewisiadau triniaeth hefyd.
Rwy'n meddwl bod y sylwadau ynglŷn â rhannu data—mae’n adeiladu ar y cwestiynau a’r sylwadau gan Angela Burns. Edrychwch, nid wyf yn cael sgyrsiau gweinidogol uniongyrchol ar y pwnc penodol hwn gyda chydweithwyr eraill ar draws Llywodraethau’r DU, ond mae’r Llywodraethau’n siarad gyda’i gilydd am ein sefyllfa. Ceir elfen o gydweithio eisoes. Mae'r ffaith ein bod ni’n cymryd rhan ymarferol yn y Prosiect 100,000 o Genomau gyda chydweithwyr yn Lloegr yn arwydd pwysig iawn, a hefyd y sgyrsiau ymchwil ehangach hynny sy’n cael eu cynnal y tu allan i'r gwasanaeth iechyd gwladol, yn ogystal ag y tu mewn i’r GIG, yn arwydd o'r ffaith bod y rhain yn sgyrsiau gweithredol sy’n cael eu cynnal ynghylch sut yr ydym ni’n rhannu data yn y ffordd orau bosibl.
Ond mae hefyd, fel y dywedais, gan ddychwelyd at bwynt Lee Waters, yn ymwneud â sut yr ydym ni’n sicrhau bod y manteision cystadleuol go iawn sydd gennym ni o bosibl yma yng Nghymru yn cael eu datblygu ac yn cael eu manteisio arnynt, ar gyfer ein budd economaidd, ond, unwaith eto, heb beryglu’r gwerthoedd yr ydym ni’n dymuno eu coleddu ynghylch y ffordd y caiff data cleifion eu defnyddio a sut yr ydym ni eisiau i'r gwasanaeth iechyd gael ei redeg.
O ran eich pwynt ynglŷn â gwerthuso datblygiadau newydd, byddwn yn gwneud yn siŵr bod proses werthuso briodol a thrwyadl, o ran comisiynu trwy Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, ond hefyd, wrth i driniaethau a therapïau newydd gael eu datblygu, bydd angen i bob un ohonyn nhw fynd trwy broses i ddeall p’un a ydynt yn cynnig gwerth gwirioneddol am arian i ni fel trethdalwyr, am yr hyn yr ydym ni’n ei dalu amdano, ond hefyd i’r dinesydd unigol a'u dewisiadau triniaeth sydd ar gael iddyn nhw a'u gweithwyr gofal iechyd proffesiynol y byddant yn deall ac yn gwneud dewisiadau gyda nhw. Felly, bydd hynny’n dal i fod yn rhan o'r broses.
Nid oes unrhyw awgrym ein bod ni’n dilyn y trywydd o ddweud os daw hyn o feddygaeth fanwl yna bydd yr holl ddangosyddion eraill hynny ynglŷn ag effeithiolrwydd a chost yn cael eu diystyru—ni fyddant. Ond, mae'n mynd yn ôl at y pwyntiau yr oedd Rhun ap Iorwerth yn eu gwneud. Ceir potensial i arbed arian yma, a photensial i gael enillion iechyd gwirioneddol, ond, mae angen i ni ddeall bob amser, pan fydd yr arwyddion hynny ar gael i ni bod gennym ni opsiwn triniaeth posibl newydd, sut rydym ni’n ei werthuso’n briodol i wneud yn siŵr nad ydym ni’n cynhyrfu ein hunain ac yn gwario llawer o arian mewn ffordd nad yw’n ddoeth nac yn ddarbodus.
Ac, ar eich pwynt ehangach am y diwydiant fferyllol, rwy'n credu fy mod i wedi ceisio gwneud hyn mewn ymateb i'r pwyntiau a wnaed gan Lee Waters. Ceir sgwrs aeddfed i barhau i’w chael a ddylai arwain at wahanol ddewisiadau buddsoddi, buddsoddi mewn gwahanol rannau o Gymru, lle mae manteision gwirioneddol i’w cael—felly, cyfle economaidd gwirioneddol, manteision iechyd gwirioneddol, a maes lle rwy’n grediniol iawn fod gan Gymru stori dda i'w hadrodd, ac rwy’n gobeithio, yn y dyfodol, y byddwn ni’n adrodd ar gynnydd gweithredol a gwirioneddol y byddwn yn parhau i’w wneud gyda ac ar ran dinasyddion a'r gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru.
Diolch yn fawr iawn. Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet.