Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 14 Mehefin 2017.
Diolch i chi, Oscar. Ein nod yw meithrin capasiti a lleihau llwyth gwaith gormodol, gan arwain at wella safonau drwy leihau biwrocratiaeth, cyflawni polisi’n well a ffyrdd gwell o weithio. Nid un ateb sydd i’r mater cymhleth hwn, ac mae’n galw am ymagwedd aml-ffrwd, gan ymgorffori nifer o ffrydiau gwaith unigol, a dyna y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar hyn o bryd.