Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 14 Mehefin 2017.
Diolch am yr ateb, Gweinidog, ond y ffeithiau yw bod y ffigurau swyddogol yn dangos bod yna 275 yn llai o athrawon wedi’u cyflogi yng Nghymru yn 2016, o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Hefyd, roedd 446 yn llai o gynorthwywyr addysgu. Canfu arolwg gan Gyngor y Gweithlu Addysg fod mwy na 88 y cant o athrawon yn dweud nad oeddent yn meddwl y gallent ymdopi â’r llwyth gwaith yn ystod yr oriau cytunedig, a bod mwy na thraean yn bwriadu rhoi’r gorau i’r proffesiwn o fewn y tair blynedd nesaf, ac rwy’n credu bod hwnnw’n ffigur syfrdanol, Ysgrifennydd y Cabinet. Onid yw’n wir fod y polisïau rydych yn mynd ar eu trywydd wedi creu proffesiwn addysgu sy’n cael ei orweithio ac wedi’i ddadrithio yng Nghymru?