Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 14 Mehefin 2017.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Fodd bynnag, mae oddeutu 3,000 o blant byddar yn mynd drwy ein system addysg yma yng Nghymru sy’n methu cael mynediad at addysg drwy ddehonglwr Iaith Arwyddion Prydain. I lawer o blant byddar, mae hwn yn gyfrwng cyfathrebu pwysig, a’r unig un yn aml, yn ystod y cyfnod datblygu pwysig hwn. Mae ymchwil gan Deaf Ex-mainstreamers wedi dangos sut y dylai Iaith Arwyddion Prydain gael ei chynnwys yn awr ym model y cwricwlwm Cymreig. Rydym wedi cael deiseb, fel Pwyllgor Deisebau, wedi’i llofnodi gan dros 1,000 o bobl yn galw am well mynediad at addysg drwy Iaith Arwyddion Prydain. A wnewch chi ystyried cynnwys hyn mewn unrhyw newid i’r cwricwlwm a sicrhau y gall y plant hyn ddysgu yr un mor dda ag unrhyw un arall?