Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 14 Mehefin 2017.
Wel, Janet, byddaf yn gwneud mwy nag ystyried, a byddwch yn gwybod hynny am fy mod wedi ateb cwestiwn ysgrifenedig ar 31 Mai, a oedd yn cadarnhau bod Iaith Arwyddion Prydain, wrth ddatblygu’r maes dysgu a phrofiad mewn perthynas ag iaith, llythrennedd a chyfathrebu, yn cael ei hystyried ochr yn ochr ag ieithoedd eraill yn y gwaith datblygu ar gyfer y grŵp hwnnw. Mae wedi cael ei chynnwys. Maent wedi bod yn cysylltu â’r sefydliadau trydydd sector sy’n cynrychioli plant a theuluoedd yn y maes arbennig hwn, ac rwy’n disgwyl i’r gwaith hwnnw fynd rhagddo’n barhaus.