<p>Dyfodol Cadwyni Cyflenwi</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 20 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 1:30, 20 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Mae'r Sefydliad Siartredig Caffael a Chyflenwi yn ddiweddar wedi cwblhau arolwg helaeth o fusnesau yn y DU ac ar y cyfandir yn sgil refferendwm yr UE y llynedd, a chanfu bod bron i hanner y busnesau cyfandirol yn disgwyl lleihau eu defnydd o gyflenwyr y DU. Canfu'r arolwg hefyd fod 65 y cant o fusnesau’r DU wedi gweld eu cadwyni cyflenwi yn dod yn ddrutach o ganlyniad i’r bunt wannach, ac mae bron traean yn ail-drafod rhai contractau. Mae Llywodraeth Iwerddon, er, wrth gwrs, bod Iwerddon yn aros yn yr Undeb Ewropeaidd, wedi achub y blaen ar y risg bosibl i gadwyni cyflenwi o ganlyniad i Brexit. Tybed a fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno i gynnull uwchgynhadledd o fusnesau cyflenwi Cymru, ac i ystyried ac archwilio’r posibilrwydd o sefydlu cynllun benthyciadau busnes i gefnogi cadwyni cyflenwi Cymru drwy'r ddwy flynedd nesaf o ansicrwydd mawr iddynt?