Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 20 Mehefin 2017.
Wel, rwy'n meddwl mai’r peth cyntaf y mae'n rhaid i ni fod yn eglur amdano yw sut y gallai natur Brexit edrych. Nid ydym ni’n ddim callach ynghylch yr hyn y gallai hynny ei olygu. Mae ei blaid ef ac, yn wir, ni ein hunain fel Llywodraeth, wedi bod yn eglur iawn ei fod yn golygu mynediad llawn a dilyffethair at y farchnad sengl. Tan i ni gael syniad o beth fydd dyfodol busnesau Cymru, yna bydd yn anodd rhoi'r sicrwydd sydd ei angen iddyn nhw. Wedi dweud hynny, mae'n hynod bwysig ein bod ni’n gweithio gyda'n busnesau i wneud yn siŵr eu bod nhw’n gallu caffael cymaint o gontractau i Gymru, yn sicr, â phosibl, ac i bwyso ar Lywodraeth y DU na ddylai leihau gallu busnesau Cymru i gyflawni busnes yn Ewrop yn y dyfodol.