Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 20 Mehefin 2017.
Prif Weinidog, mae hanes Llywodraeth Cymru hyd yma o ran gweithio i sicrhau bod cwmnïau Cymru yn elwa cymaint â phosibl ar gaffael cyhoeddus a gyflwynwyd yng Nghymru yn wael, rwy’n credu. O ddechrau 2016, o'r 130 o gontractau caffael corfforaethol a ddyfarnwyd gan Lywodraeth Cymru ers 2011 ac a oedd yn werth mwy na £500,000, dim ond 53 y cant a ddyfarnwyd i fusnesau yng Nghymru. Ac nid oes dim yn amlygu mwy ar hyn na phrosiect ffordd Blaenau'r Cymoedd, a ddyfarnwyd, er ei fod yn brosiect cyfalaf wedi ei leoli yng nghalon Cymru, i gontractwr wedi ei leoli yn Lloegr. Felly, yn y dyfodol, beth allwch chi ei wneud i sicrhau bod cwmnïau Cymru yn elwa llawer mwy ar gontractau cyhoeddus a gynigir yng Nghymru er mwyn helpu i adeiladu’r gadwyn gyflenwi yma yng Nghymru?