Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 20 Mehefin 2017.
Rydym ni wedi gweld cynnydd sylweddol i nifer y busnesau yng Nghymru sy'n ennill contractau sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae'r ffigur wedi mynd o tua 37 y cant, os cofiaf, i dros hanner nawr, sy'n welliant mawr. Trwy fentrau fel y gronfa ddata gwybodaeth am gymwysterau cyflenwyr, er enghraifft, a'r fenter gaffael, rydym ni wedi sicrhau bod busnesau Cymru yn gallu cystadlu’n well am gontractau, ac yn enwedig yn gallu gweithio gyda'i gilydd gyda chwmnïau eraill er mwyn bod yn llwyddiannus o ran ennill y contractau hynny yn y lle cyntaf. Yn amlwg, bydd contractau penodol na allant gael eu darparu heblaw gan gwmnïau sydd â sgiliau arbenigol penodol, ond, serch hynny, rydym ni wedi gweld twf sylweddol i nifer y busnesau yng Nghymru sy'n llwyddiannus wrth wneud cais am gontractau sector cyhoeddus.