Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 20 Mehefin 2017.
Diolch am yr ateb, Gweinidog, ond mae 'llwyddiannus' yn dod i hyn: bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol fod ei Llywodraeth wedi gosod targed i awdurdodau lleol ailgylchu 58 y cant o wastraff erbyn 2016. Ym mis Ebrill, adroddwyd bod tri chyngor—Casnewydd, Blaenau Gwent a Thorfaen—i gyd wedi methu eu targed, ond y byddent yn osgoi cael eu dirwyo hefyd. A oes gan Lywodraeth Cymru gynlluniau i adolygu targedau ailgylchu yng Nghymru, ac, os ydynt yn mynd i gael eu cynyddu, pa gymhelliad fydd yna i gynghorau sy'n tanberfformio wella, o ystyried yr amharodrwydd i ddefnyddio dirwyon yng Nghymru?