<p>Targedau Ailgylchu</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 20 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:36, 20 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy'n falch bod yr Aelod wedi nodi, bod y targed yn 58 y cant erbyn diwedd 2016. Mewn gwirionedd, fe wnaethom gyrraedd 60 y cant o ganlyniad i'r gwaith a wnaed. Y gwirionedd yw bod cymhelliad ariannol annatod i awdurdodau lleol ailgylchu mwy, gan y gallant gael mwy o arian am y cynhyrchion y maen nhw’n eu cynnig ar gyfer ailgylchu, ac nid oes rhaid iddyn nhw dalu cymaint o ran y dreth tirlenwi. Felly, mae’r awdurdodau lleol hynny nad ydynt yn cyrraedd y targedau a osodwyd, i bob pwrpas, yn costio mwy o arian i’w hunain, a dyna'r cymhelliad annatod o ran sicrhau ein bod ni’n gweld mwy o ailgylchu. A gaf i ddweud ein bod yn sicr ar y trywydd iawn i ragori ar y targed o 70 y cant yr ydym ni wedi ei osod ar gyfer y flwyddyn 2024-25.