Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 20 Mehefin 2017.
Mae Llywodraeth Cymru wedi clustnodi’r flwyddyn hon, wrth gwrs, yn Flwyddyn y Chwedlau ac, yn sicr, mae gan sir Benfro ei chyfran deg o hanes diwylliannol sydd, wrth gwrs, yn cynnwys asedau fel eglwys gadeiriol Tyddewi a Chastell Henllys, i enwi ond ychydig. Mae’n hanfodol bod pob rhan o Gymru yn derbyn cyfran deg o gyllid i wir ddathlu Blwyddyn y Chwedlau, felly a allwch chi ddweud wrthym ni sut rydych chi fel Llywodraeth, yn ariannol, wedi cefnogi pob rhan o Gymru i sicrhau bod pob rhan o Gymru yn cael y chwarae teg y maent yn ei haeddu? Er enghraifft, faint o gefnogaeth ydych chi wedi ei rhoi i sir Benfro yn sgil y fenter benodol hon?