<p>Sir Benfro fel Cyrchfan Dwristiaeth</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 20 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:54, 20 Mehefin 2017

Wel, yn gyntaf, wrth gwrs, y gronfa dwristiaeth ynglŷn â 2017: mae yna arian wedi cael ei roi i’r ‘pollinator trail’, sef project yn Dr Beynon’s Bug Farm; mae arian wedi cael ei roi i TYF Group Ltd ynglŷn â ‘SUP Kids Wales project’; ac mae arian wedi cael ei roi i Seren Collection ynglŷn â’r ‘Welsh roots project’ yn ardal Arberth. Yn fwy eang, mae yna arian i’r ymddiriedolaethau bywyd gwyllt ynglŷn â’u projectau nhw, ac, wrth gwrs, projectau eraill yn sir Benfro. Ac, wrth gwrs, rydym ni’n gefnogol iawn o’r bid gan Dyddewi ynglŷn â dinas diwylliant y Deyrnas Unedig yn 2021. Rydym ni’n gefnogol iawn o’r bid hwnnw, fel rydym ni’n gefnogol iawn o fid Abertawe. Wrth gwrs, mae’n wir i ddweud bod argraff Tyddewi ynglŷn â’r bid y maen nhw wedi’i ddodi i mewn wedi bod yn dda dros ben.