Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 20 Mehefin 2017.
Rydym ni’n ceisio gweithio gyda'r holl sefydliadau trydydd sector sy'n gwneud cymaint o waith i helpu pobl hŷn. Mae’r Aelod yn iawn i ddweud bod arwahanrwydd ac unigrwydd yn broblem arbennig, yn enwedig yn y dyddiau hyn pan fo teuluoedd wedi symud i ffwrdd, ac mae’n cael effaith andwyol nid yn unig ar iechyd meddwl pobl, ond, mae'n ymddangos, ar eu hiechyd corfforol hefyd. Rydym ni eisiau gweithio gydag Age Cymru. Rwy’n cymeradwyo’r hyn y mae Age Cymru yn ei wneud i sicrhau bod arwahanrwydd, yn gyntaf, yn cael ei gydnabod fel problem, ac, yn ail, bod atebion yn cael eu canfod i'r broblem honno.