Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 20 Mehefin 2017.
Un o'r pethau y gallwn ni ei wneud i wella bywydau pobl hŷn yw sicrhau bod ein strategaeth dementia yn uchelgeisiol ac wir yn newid bywydau. Fel y gwyddoch, mae Ysgrifennydd y Cabinet wrthi’n ystyried y nifer fawr iawn o ymatebion y mae'r Llywodraeth wedi eu cael ar hyn, ond rwy’n credu bod hwn yn sicr yn fater i'r Llywodraeth gyfan, yn enwedig gan fy mod i’n credu y bydd angen adnoddau ychwanegol arno er mwyn ei roi ar waith yn effeithiol. Pa sicrwydd allwch chi ei roi y bydd hyn yn flaenoriaeth i chi, a phan fydd gennym ni’r strategaeth ddementia derfynol, y bydd mor weddnewidiol ag yr ydym ni oll eisiau ei weld?