Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 20 Mehefin 2017.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. A wnaiff ef ymuno â mi i longyfarch Elly Neville sy’n naw mlwydd oed ac sydd wedi codi £109,500 i gynorthwyo gwaith ar ward 10 yn ysbyty Llwynhelyg, lle cafodd ei thad driniaeth ar gyfer canser? Er fy mod i’n cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gwneud llawer iawn i geisio lleihau amseroedd aros mewn ysbytai am driniaeth canser, rydym ni’n dal i fethu'r targed 62 diwrnod o gryn dipyn, ac mae hynny’n creu problemau anochel, fel fy etholwr arall y mae ei wraig yn brwydro canser am yr ail dro ac y mae ei chais am driniaeth wedi cael ei wrthod am yr ail dro gan y GIG yng Nghymru a chan arbenigwyr yn Llundain ac sydd wedi mynd i gael ei thrin yn breifat, ac yn hytrach na chael dim gobaith, fel a ddigwyddodd â’r GIG yng Nghymru, mae wedi cael y wybodaeth nawr bod modd trin ei chanser.
Gwn fod hon yn broblem anochel gydag adnoddau cyfyngedig, ond os gallwn ni ddarparu'r adnoddau sydd eu hangen i drin pob achos trist o'r fath, nid ydym ni byth yn mynd i gael ein hwynebu gan y penderfyniadau anodd hyn yn y lle cyntaf, sy’n mynd i fod o fantais i bawb. Felly, a all y Prif Weinidog roi cipolwg i’r dyfodol i ni efallai o ran yr hyn y mae'n gobeithio y bydd ei Lywodraeth yn gallu ei gyflawni o ran lleihau’r amseroedd aros hyn a phenderfyniadau triniaeth ar gyfer canser yn ystod blynyddoedd nesaf y Cynulliad hwn?