Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 20 Mehefin 2017.
Tri pheth: yn gyntaf oll, ym Mhowys, er enghraifft, mae'r perfformiad yn erbyn y llwybr 62 diwrnod wedi bod yn 100 y cant ar bum achlysur yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Yn Hywel Dda, gwelwyd mwy na 90 y cant o gleifion ar y llwybr 62 diwrnod yn unol â’r targed—mae wedi bod oddeutu 90 y cant ar chwe achlysur yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
O ran achos ei etholwr, mae'n anodd iawn i mi wneud sylwadau heb wybod mwy amdano. Mae croeso iddo, wrth gwrs, ysgrifennu ar ran ei etholwr os yw'n teimlo bod hynny'n briodol. Rwyf wedi cyfarfod Elly, felly rwy'n gwybod pa mor frwdfrydig ac egnïol yw hi, ac mae hi'n glod mawr i’w rhieni ac yn wir i Sir Benfro ac i Gymru.