<p>Strategaeth ‘Arloesi Cymru’</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 20 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:12, 20 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, mae clystyrau yn tueddu i ymddangos yn yr ardaloedd hynny lle ceir sgiliau i'w cefnogi eisoes, a hefyd lle mae busnesau sy'n bodoli yn yr ardal honno eisoes. Nid yw hynny’n golygu, wrth gwrs, na ellir eu creu mewn mannau eraill, ond maen nhw’n fwy anodd eu creu mewn ardaloedd lle nad yw’r sgiliau hynny ar gael i’r un graddau. Er hynny, byddem eisiau sicrhau bod y clystyrau sy'n cael eu creu yn gynaliadwy—eu bod nhw’n arbenigol—ac, wrth gwrs, byddem yn hyrwyddo gweithio trawsffiniol. Yn wir, byddem yn hyrwyddo gweithio ar draws Ewrop ac ar draws y byd, oherwydd yn y ffordd honno, wrth gwrs, gallwn fanteisio ar y gwaith ymchwil gorau a’r cyngor gorau hefyd wrth i ni geisio datblygu economi Cymru.