1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 20 Mehefin 2017.
7. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o strategaeth ‘Arloesi Cymru’? OAQ(5)0660(FM)
Cafodd ei chyhoeddi yn 2013, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus eang. Fe wnaeth Cymru yn fabwysiadwr cynnar o ddull arbenigo clyfar yr UE o arloesi, a chyfeirir ati’n rheolaidd gan Gyngor Cynghorol annibynnol Cymru ar Arloesi.
Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Mae'r tarfu ar y farchnad sy'n cyd-fynd â’r hyn a elwir yn eang y pedwerydd chwyldro diwydiannol yn rhoi cyfle i ni ail-ddychmygu economi Cymru a’i gwneud yn fwy cydnerth i'r heriau sy'n cael eu rhyddhau gan rymoedd byd-eang. Mae angen diweddaru strategaeth gyfredol Arloesedd Cymru ac mae angen mwy o uchelgais arni yn wyneb hyn. A wnaiff y Prif Weinidog gytuno i gynnal adolygiad sylfaenol ar ble y ceir cyfleoedd yn y dyfodol, gan edrych yn benodol ar farchnadoedd sy'n dod i'r amlwg ac nid y rhai presennol yn unig, ac edrych y tu hwnt i fuddsoddi mewn seilwaith a chanolbwyntio ar ffyrdd mwy anniriaethol o hybu twf yn y maes hollbwysig hwn?
Mae adolygiadau rheolaidd yn bwysig, gan ein bod ni’n gwybod bod technoleg yn newid mor gyflym fel y gall pethau symud ymlaen yn gyflym iawn. Rydym ni’n sôn am arloesedd 4.0—ni fyddai neb wedi gwybod am hynny yn 2012, er enghraifft, felly mae e'n iawn fod angen cael adolygiadau. Mae e'n iawn fod angen i ni edrych ar ffyrdd newydd o greu swyddi. Mae’n rhaid i mi ddweud bod y seilwaith yn bwysig, er bod yn rhaid i ni ddiffinio seilwaith yn y ffordd ehangaf bosibl, ac mae hynny'n golygu, er enghraifft, cynnwys, fel yr wyf wedi ei wneud bob amser, band eang mewn seilwaith—mae honno’n ffordd o sicrhau y gall swyddi aros, er enghraifft, mewn cymunedau gwledig, lle byddent wedi diflannu fel arall. Yn sicr, fel Llywodraeth, rydym ni wedi ymrwymo i adolygu Arloesedd Cymru yn rheolaidd i wneud yn siŵr bod y cynllun mor gyfredol ag y gall fod.
A wnaiff y Prif Weinidog ailystyried sut y mae strategaeth Arloesedd Cymru yn cefnogi clwstwr digidol yn y de-ddwyrain, ac, yn arbennig, adolygu beth arall y gellid ei wneud i gefnogi ymchwil a datblygu trawsffiniol, o ystyried pwysigrwydd cynyddol economi Bryste ym maes technoleg ddigidol?
Wel, mae clystyrau yn tueddu i ymddangos yn yr ardaloedd hynny lle ceir sgiliau i'w cefnogi eisoes, a hefyd lle mae busnesau sy'n bodoli yn yr ardal honno eisoes. Nid yw hynny’n golygu, wrth gwrs, na ellir eu creu mewn mannau eraill, ond maen nhw’n fwy anodd eu creu mewn ardaloedd lle nad yw’r sgiliau hynny ar gael i’r un graddau. Er hynny, byddem eisiau sicrhau bod y clystyrau sy'n cael eu creu yn gynaliadwy—eu bod nhw’n arbenigol—ac, wrth gwrs, byddem yn hyrwyddo gweithio trawsffiniol. Yn wir, byddem yn hyrwyddo gweithio ar draws Ewrop ac ar draws y byd, oherwydd yn y ffordd honno, wrth gwrs, gallwn fanteisio ar y gwaith ymchwil gorau a’r cyngor gorau hefyd wrth i ni geisio datblygu economi Cymru.
Mae yna ddau adroddiad wedi bod gerbron Gweinidogion ers dros flwyddyn nawr, rwy’n credu, gan yr Athro Kevin Morgan ac eraill yn awgrymu creu corff arloesedd cenedlaethol i Gymru, yn debyg i’r hyn sydd gan y gwledydd Sgandinafaidd. Rwy’n deall mai’r awgrym nawr sy’n cael ei ledu yw bod arloesedd yn hytrach yn cael ei roi fel cyfrifoldeb i’r corff addysg drydyddol newydd. Y perig gyda hynny, wrth gwrs, yw bod y dimensiwn addysg uwch yn cael ei briod le, ond hynny ar draul y math o faterion economaidd ehangach yr oedd Lee Waters yn cyfeirio atyn nhw.
Mae’n rhaid sicrhau bod yna gydbwysedd. Rŷm ni’n gwybod bod sgiliau yn y byd addysg uwch yn hollbwysig, yn enwedig, er enghraifft, gyda Wylfa Newydd. Hefyd, wrth gwrs, mae addysg bellach yn bwysig er mwyn bod y sgiliau—y sgiliau ymarferol—ar gael gan bobl er mwyn iddyn nhw allu cael swyddi. Rŷm ni yn deall bod y cydbwysedd hwnnw yn bwysig, ac, wrth gwrs, bydd hwn yn rhan o’r ffordd rŷm ni’n ystyried hwn yn y pen draw.