<p>Strategaeth ‘Arloesi Cymru’</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 20 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 2:13, 20 Mehefin 2017

Mae yna ddau adroddiad wedi bod gerbron Gweinidogion ers dros flwyddyn nawr, rwy’n credu, gan yr Athro Kevin Morgan ac eraill yn awgrymu creu corff arloesedd cenedlaethol i Gymru, yn debyg i’r hyn sydd gan y gwledydd Sgandinafaidd. Rwy’n deall mai’r awgrym nawr sy’n cael ei ledu yw bod arloesedd yn hytrach yn cael ei roi fel cyfrifoldeb i’r corff addysg drydyddol newydd. Y perig gyda hynny, wrth gwrs, yw bod y dimensiwn addysg uwch yn cael ei briod le, ond hynny ar draul y math o faterion economaidd ehangach yr oedd Lee Waters yn cyfeirio atyn nhw.