<p>Strategaeth ‘Arloesi Cymru’</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 20 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:14, 20 Mehefin 2017

Mae’n rhaid sicrhau bod yna gydbwysedd. Rŷm ni’n gwybod bod sgiliau yn y byd addysg uwch yn hollbwysig, yn enwedig, er enghraifft, gyda Wylfa Newydd. Hefyd, wrth gwrs, mae addysg bellach yn bwysig er mwyn bod y sgiliau—y sgiliau ymarferol—ar gael gan bobl er mwyn iddyn nhw allu cael swyddi. Rŷm ni yn deall bod y cydbwysedd hwnnw yn bwysig, ac, wrth gwrs, bydd hwn yn rhan o’r ffordd rŷm ni’n ystyried hwn yn y pen draw.