1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 20 Mehefin 2017.
8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cynyddu gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghwm Cynon? OAQ(5)0675(FM)
Mae'r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol, a gyhoeddwyd yn 2015, yn nodi buddsoddiad ar gyfer trafnidiaeth a seilwaith a gwasanaethau ar gyfer 2015-20 ar draws pob rhan o Gymru.
Prif Weinidog, mae nifer o etholwyr wedi cysylltu â mi’n ddiweddar am annigonolrwydd cysylltiadau cludiant cyhoeddus rhwng Cwm Cynon a Chaerdydd ar y Sul, gydag, er enghraifft, gwasanaethau anaml yn ei gwneud hi’n anodd iddyn nhw gael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth, yn y brifddinas a dim ond ymhellach i lawr Cwm Cynon ei hun. O dan metro de Cymru, neu unrhyw fasnachfraint reilffyrdd ddiwygiedig yn y dyfodol, sut gallwn ni wneud yn siŵr nad yw hyn yn wir a bod cyfleoedd priodol ar gael i ddefnyddio cludiant cyhoeddus ar y Sul?
Mae'n hynod bwysig ein bod ni’n dechrau meddwl am y Sul fel diwrnod nad yw'n union fel unrhyw ddiwrnod arall, wrth gwrs, ond tebyg o ran patrymau gwaith pobl. Nid ydym yn wlad Sabathyddol mwyach ac mae pobl yn teithio ar y Sul, ac, yn aml iawn, nid yw'r rhwydweithiau cludiant cyhoeddus yn adlewyrchu hynny. Mae'n rhywbeth y byddwn yn myfyrio arno yn rhan o'r trafodaethau masnachfraint. Mae'n hynod bwysig bod pobl yn gallu teithio i'r gwaith ar y Sul, gan fod llawer o bobl yn gweithio erbyn hyn, yn enwedig yn y sector manwerthu, ar y Sul. Felly, mae hyn yn rhywbeth y byddwn yn ei ystyried yn rhan o'r broses o gyflwyno’r metro ac yn rhan o'r fasnachfraint.
Prif Weinidog, mae amlder a dibynadwyedd gwasanaethau yn hanfodol, ac o ran gwasanaethau Arriva, rwyf i wir yn meddwl bod angen i ni weld gwelliant sylweddol i arferion fel canslo gwasanaethau neu derfynu gwasanaeth hanner ffordd i fyny'r cwm. Os ydych chi eisiau mynd i Aberdâr, mae'n stopio yn Aberpennar ac mae'n rhaid i chi ddod oddi ar y trên ac aros am y trên nesaf. Mae'r rhain yn brofion pwysig iawn o wasanaeth, ac nid wyf yn credu bod y math hwnnw o wasanaeth yn dderbyniol.
Mae'n hynod bwysig bod pobl yn gallu teithio ar wasanaeth dibynadwy ac yn gyfforddus. Ceir llawer o achlysuron lle mae Aelodau wedi tynnu sylw at fethiant yn y gwasanaeth hwnnw dros y blynyddoedd. O'r flwyddyn nesaf, wrth gwrs, cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru fydd hyn, ac rydym ni’n derbyn hynny. Dylai gyfrif ei hun yn ffodus nad oedd yn Llundain ddoe, lle y teithiais yn ôl ac ymlaen ar drên Great Western lle nad oedd unrhyw aerdymheru o gwbl. Pe byddwn i wedi mynd â phlanhigyn rwber gyda mi, byddai wedi ffynnu mewn tymheredd a oedd yn y 30au canol—canradd, hynny yw—ar y trên ei hun. Roedd hynny’n gwbl annerbyniol gan Great Western. Mae'n gwbl annerbyniol i unrhyw gwmni trenau weithredu yn y modd hwnnw. Dyna pam mae mor bwysig gyda'r masnachfreintiau newydd, wrth iddynt gael eu neilltuo, ein bod ni’n ystyried nid yn unig amlder, ond ein bod ni hefyd yn ystyried y cyfforddusrwydd y mae teithwyr yn ei brofi pan eu bod ar y trenau, er mwyn gwneud yn siŵr bod mwy o bobl yn defnyddio'r trenau.
Diolch i’r Prif Weinidog.