Part of 10. 9. Cyfnod 3 y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) – Senedd Cymru am 6:15 pm ar 20 Mehefin 2017.
A gaf i yn gyntaf, Ysgrifennydd y Cabinet, groesawu cyflwyno Cam 3 y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru)? Rydym wedi treulio amser hir yn siarad am ba mor hanesyddol oedd cyflwyno Treth Gwarediadau Tirlenwi fel y dreth Gymreig gyntaf mewn cannoedd o flynyddoedd, ac yn amlwg mae hwn hefyd yn hanesyddol—yr ail, ac am wn i, y Buzz Aldrin i Neil Armstrong, os oeddech yn chwilio am gyfatebiaeth gofod, y gallech fod, ond, wrth gwrs, efallai na fyddwch. Gallaf weld bod Mike Hedges wedi hoffi’r gyfatebiaeth beth bynnag. Mae'r Pwyllgor Cyllid wedi croesawu eich cydweithio agos yn ystod y camau blaenorol ac, yn wir, gweithio gyda'ch swyddogion. Rwyf wedi cael nifer o gyfarfodydd gyda'ch swyddogion a chi eich hun a staff cymorth grŵp y Ceidwadwyr Cymreig Cymru hefyd—ac mae hynny wedi bod yn fuddiol iawn. Rydym yn gwybod bod y dreth hon, fel y Dreth Trafodiadau Tir, yn hanfodol yn y ffaith, ym mis Ebrill 2018, bydd yr hyn sy'n cyfateb iddi yn y DU, yr ydym wedi bod yn gweithredu oddi tani hyd yn hyn, a hyd at fis Ebrill y flwyddyn nesaf, yn cael ei diffodd. Felly, does dim amheuaeth o gwbl bod angen y dreth hon.
Gan droi at grŵp 1 a’r cynllun cymunedau, y dywedwch yn briodol sydd yn bwysig iawn, byddwn yn cefnogi'r prif welliant yn y grŵp ac, yn wir, ail welliant y Llywodraeth hefyd. Ond gan droi at y gwelliant mwy dadleuol—ein gwelliant 52—y gwnaethoch roi coel arno, rwy’n cydnabod eich bod yn credu bod pethau da o fewn y gwelliant hwnnw. Roeddech yn llygad eich lle i ddweud ein bod wedi cael cryn dipyn o drafodaeth am hyn yng Nghyfnod 2, yn ystod y cam pwyllgor, ac mae’r sylwadau a fynegais ar y pwynt hwnnw ar gyfer gosod hyn ar wyneb y Bil yn parhau. Credaf fod gwelliant 2 yn culhau’r meini prawf ar gyfer ceisiadau ychydig ar wyneb y Bil. Does dim sôn am y meini prawf cymhwyster eu hunain ar wyneb y Bil. Er y bydd hwn yn gynllun ar wahân i'r Gronfa Cymunedau Tirlenwi traddodiadol sy’n berthnasol yn Lloegr a'r Alban, sydd wedi ei seilio ar dalebau, mae angen culhau’r meini prawf, rwy’n teimlo, ar gyfer cymhwyster, sydd wedi eu lleoli mewn deddfwriaeth bresennol ac a fyddai’n arwain gwaith y pwyllgor ar y cynllun. Ar hyn o bryd, mae gan yr Alban Gronfa Cymunedau Tirlenwi'r Alban, sydd â nifer o bwyntiau manwl am gymhwysedd i'r gronfa, sy'n cael eu hamlinellu dan Ran 7 o Reoliadau Treth Dirlenwi'r Alban (Gweinyddu) 2015, gan gynnwys gwarchod yr amgylchedd, ailgylchu yn y gymuned , prosiectau ailddefnyddio ac atal gwastraff a phrosiectau cadwraeth. Mae'r gwelliant hwn hefyd yn egluro sefyllfa cyrff lleol wrth wneud cais am grant dan y cynllun cymunedau tirlenwi. Ar ben hynny, wrth edrych ar y ddarpariaeth o grantiau a gallu elusennau lleol llai i wneud cais, mae'n hanfodol bod canllawiau clir ar gael er mwyn iddynt gael maes chwarae cyfartal. Er enghraifft, mae Sefydliad Cymunedol yng Nghymru wedi darparu canllawiau hygyrch i sefydliadau, gan gynnwys eu gwybodaeth ariannol a disgrifiad o’r prosiect.
Fel yr wyf yn dweud, cawsom drafodaeth deg am hyn yng Nghyfnod 2, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy’n gwerthfawrogi eich rhesymau dros beidio â bod eisiau clymu eich dwylo, yn eich geiriau chi, drwy roi hyn ar wyneb y Bil. Rwyf, fodd bynnag, yn dal i gredu ei fod yn ddefnyddiol i ni gael gwelliant yn y lle hwn yng Nghyfnod 3 fel, yn gyntaf, y gallwch wneud eich pwyntiau yn rymus, yr ydych wedi gwneud, ac rwyf yn siŵr y bydd llawer o Aelodau'n cytuno â nhw, ond hefyd fel y gallwn nodi ein rhesymau dros ddymuno i’r wybodaeth hon gael ei hegluro cyn gynted â phosibl. Un ffordd o wneud hynny fyddai drwy ei rhoi ar wyneb y Bil. Felly byddwn yn dal i hoffi bwrw ymlaen â'r gwelliant hwn, er fy mod yn deall yn llwyr resymau Ysgrifennydd y Cabinet dros wrthwynebu. Os yw’r gwelliant hwn yn methu, yna gobeithio y gall y Pwyllgor Cyllid barhau gyda'r broses o weithio gyda chi i ddatblygu dewis arall rhesymol, derbyniol a chynaliadwy.