<p>Grŵp 1: Cynllun Cymunedol y Dreth Gwarediadau Tirlenwi (Gwelliannau 2, 32, 52)</p>

Part of 10. 9. Cyfnod 3 y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) – Senedd Cymru am 6:19 pm ar 20 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 6:19, 20 Mehefin 2017

Jest yn fyr iawn, i ddweud ein bod ni, ar y meinciau yma, yn gefnogol iawn i’r egwyddor y tu ôl i welliant 52 yn enw Nick Ramsay, sef i sicrhau bod cronfa gymunedol yn gweithio er lles ac er budd cymunedau, ond, ar yr achlysur yma, byddwn ni yn ymatal ar y bleidlais achos rydym ni’n meddwl ei bod hi’n bwysig inni ddal Ysgrifennydd y Cabinet wrth ei air ei fod e am gydweithio gyda’r pwyllgor cyn yr haf, a hefyd i ddod â’r cyrff perthnasol ar lefel cymunedol i mewn i’r drafodaeth ynglŷn â sut y gallwn ni weithredu ar gronfa gymunedol yn y dyfodol. Dim byd o gwbl yn erbyn yr egwyddor y tu ôl i welliant Nick Ramsay—ond ein bod ni ddim eisiau cyfyngu, yn y cyfnod yma, ar beth gallwn ni ei wneud yn y dyfodol gyda thrafodaeth well rhwng y pleidiau i gyd.