<p>Grŵp 1: Cynllun Cymunedol y Dreth Gwarediadau Tirlenwi (Gwelliannau 2, 32, 52)</p>

Part of 10. 9. Cyfnod 3 y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) – Senedd Cymru am 6:20 pm ar 20 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 6:20, 20 Mehefin 2017

Rydw i jest eisiau mynegi fy niolchgarwch fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid ac ar ran y Pwyllgor Cyllid i gyd, rydw i’n meddwl, am barodrwydd yr Ysgrifennydd Cabinet i weithio gyda ni ar y Bil yma. Rydw i’n credu bod y Bil wedi gwella yn sgil y craffu a gafodd e yn y pwyllgor, ond rydw i hefyd yn meddwl bod yna elfen o gyd-ddeddfu wedi digwydd ar y Bil yma. Wrth inni edrych ar y posibiliadau am drethi newydd—trethi arloesol, ffurf newydd o ddefnyddio’r pwerau newydd sydd gyda ni—rydw i’n credu bod y cynsail y tu ôl i’r Bil yma, a hefyd, i fod yn deg, y Bil blaenorol a oedd yn ymwneud â thrafodion tir, yn gynsail y byddwn ni’n gobeithio y byddai nid jest yr Ysgrifennydd Cabinet presennol, ond pob Ysgrifennydd Cabinet o unrhyw Lywodraeth ac unrhyw blaid, yn mynd i ddymuno ei dilyn ar y cyd gyda’r Cynulliad hwn, wrth i ni ddatblygu yn Senedd.

Fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet ei fod e wedi derbyn pob un o’n hargymhellion ni mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Mae hynny’n wir, ac mae’n braf i weld bod casglu tystiolaeth, trafod tystiolaeth a dod â thystiolaeth yn ffordd i berswadio’r Llywodraeth i edrych o’r newydd ar y Bil. Wedi dweud hynny, nid oedd e’n Fil gwael iawn yn y lle cyntaf; mae eisiau fod yn glir ar hynny. Rŷm ni ond wedi craffu arno fe, wedi sylwi ar ambell i beth a oedd ar goll, ambell i beth a oedd yn anghywir, ac yng nghyd-destun arbennig y gwelliannau hyn, ar rywbeth nad oedd yno yn y lle cyntaf. Ond drwy ddwyn perswâd ar yr Ysgrifennydd Cabinet, mae yna nawr ymrwymiad penodol yn y Bil, wrth iddo gael ei ddatblygu, fod yna gynllun cymunedau treth gwarediadau tirlenwi, ac rydw i’n meddwl bod hynny’n gyrru neges bositif iawn i’r cymunedau hynny sy’n cael eu heffeithio gan orsafoedd tirlenwi, neu orsafoedd trosglwyddo gwastraff, sydd yn gallu bod yn bla ar rai cymunedau o bryd i’w gilydd.

Fel y mae Steffan Lewis newydd amlinellu, nid ydym ni cweit yn barod i dderbyn y gwelliant gan Nick Ramsay fel Plaid Cymru ar hyn o bryd. Rydw i’n credu bod yr egwyddorion yn y gwelliant yn rhoi canllawiau pwysig, ac fe fyddwn i’n dymuno bod y Pwyllgor Cyllid yn defnyddio’r egwyddorion hynny i lywio’r drafodaeth a fydd gyda ni nawr rhwng y pwyllgor a’r Ysgrifennydd Cabinet.