Part of the debate – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 20 Mehefin 2017.
Diolch i'r Aelod am ei gwestiynau a'r sgyrsiau y cawsom ni y tu allan i’r Cyfarfod Llawn. Yn gyntaf oll, o ran y chwistrellwyr a’u gosod a pha mor briodol ydyn nhw. Fel mae’r Aelod yn gwybod, fe gyflwynom ni Fesur ar gyfer adeiladau newydd ac ôl-osod chwistrellwyr mewn adeiladau hŷn. Gosodwyd chwistrellwyr eisoes mewn rhai o'r blociau aml-lawr. Bydd hynny'n rhan o'r ymchwiliad gan y tîm a'r prif swyddog tân, i weld beth yw hyd a lled y ddarpariaeth honno, yn enwedig yn y bloc aml-lawr ar hyn o bryd. Rwy’n credu, yr hyn yr wyf i'n gobeithio gallu ei wneud yw rhaglen asesu mewn dwy ran. Felly, lle mae gennym ni risg fawr yn achos blociau aml-lawr o fflatiau fel y bloc tŵr yn Llundain, rydym yn mynd i gynnal ymchwiliad cyflym iawn i’r rheini, ac yna symud ymlaen i adeiladau eraill lle mae peth risg hefyd, ond lle mae’r peryg yn llai.
O ran cladin, mae arwyddion cynnar, fel y dywedais yn gynharach, yn dangos nad yw cladin tebyg i hwnnw a ddefnyddiwyd yn fflatiau Tŵr Grenfell wedi ei osod ar unrhyw adeilad. Fodd bynnag, oherwydd pryderon ac i roi sicrwydd ychwanegol, bydd y rhain i gyd yn cael eu harolygu ac rwyf hefyd wedi cyfarwyddo fy nhîm—credaf mai dim ond 18 o samplau sydd eu hangen—bod 18 o samplau yn cael eu tynnu a'u profi gan yr asiantaethau priodol i roi sicrwydd i ni o hynny. Mae arolygu ac ansawdd yn brosesau pwysig o ran rhoi hyder i drigolion.
Nid wyf yn credu bod y systemau sydd ar waith yn yr un cyflwr â’r rhai mewn rhai awdurdodau yn Lloegr. Rwy’n credu ein bod ni ar flaen y gad, ond nid ydym yn hunanfodlon. Rwy'n credu bod gennym ni lai o stoc, ac felly gallwn ni reoli hynny mewn ffordd wahanol. Ond mae'r landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ac awdurdodau lleol yn awyddus iawn i sicrhau eu bod yn rhoi adborth ar hynny.
O ran rheoliadau adeiladu, mae Lesley Griffiths a minnau yn rhannu’r gwaith hwn. Lesley Griffiths sy’n rheoli rheoliadau adeiladu, ond rydym ni’n cydweithio'n agos iawn o ran gwneud yn siŵr bod rheoliadau adeiladu a thystysgrifau diogelwch yn briodol, a byddwn yn edrych ar hynny yn rhan o'r adolygiad. Bydd y prif swyddog tân yn adrodd ar hynny. Byddaf, fel y dywedais yn y datganiad, yn gwneud datganiad manwl pellach ar ôl i ni gael rhywfaint mwy o wybodaeth gan Lywodraeth y DU.