Part of the debate – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 20 Mehefin 2017.
Diolch i'r Aelod am ei sylwadau. Nid wyf yn credu fod heddiw, yn sicr, yn ddiwrnod i drafod gwleidyddiaeth systemau chwistrellu. Fe wnaethom ni yng Nghymru benderfyniad ymwybodol i gyflwyno deddfwriaeth ynglŷn â systemau chwistrellu, a bydd hyn gobeithio yn cael effaith gadarnhaol o ran y berthynas mae'r Aelod yn cyfeirio ati. Yr hyn mae'n rhaid i ni ei gofio yw bod yr adeiladau hyn—yn enwedig yng nghyffiniau Tŵr Grenfell a rhai o'r adeiladau aml-lawr hŷn a mwy o faint—wedi eu codi cyn 1976, ac mae'r rheoliadau adeiladu o gyfnod cyn 1974. Rydym ni wedi symud ymhell iawn yn y broses honno yn awr, at gynigion modern. Ond yr hyn mae'n rhaid i ni ei sicrhau yw, pan fo’r adeiladau hynny’n cael eu haddasu, eu bod yn cydymffurfio â safonau modern, ac felly mae ansawdd y gwaith ar yr adeiladau hynny yn hollbwysig er mwyn sicrhau ein bod yn cael hynny’n gywir. Fel y dywedais i yn gynharach, byddaf yn gofyn i'r prif swyddog tân am adroddiad llawn ar yr adeiladau hyn, yna byddwn yn symud ymlaen at y cam nesaf o ran yr hyn sy'n digwydd gydag adeiladau eraill lle mae’r peryglon yn llai, er nad yn absennol. Rwy'n credu bod yn rhaid mynd ati mewn dau gam yn hynny o beth, ochr yn ochr â'r rheoliadau adeiladu a thystysgrifau diogelwch tân. Fy nealltwriaeth i yw y caiff tystysgrifau tân cyfredol eu hystyried dim ond ar gyfer elfennau mewnol adeilad. Felly, ni fyddai elfen cladin adeilad yn cael ei ystyried yn hynny. Efallai bod hynny yn rhywbeth y dylem ni roi sylw iddo wrth i ni symud ymlaen hefyd.