Part of the debate – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 20 Mehefin 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, diolch i chi am eich datganiad heddiw, ac am ba mor gyflym y gwnaethoch chi ddod ag ef ymlaen. Mae ein meddyliau a'n gweddïau, wrth gwrs, gyda dioddefwyr y tân ofnadwy a losgodd Dŵr Grenfell yng ngorllewin Llundain yr wythnos diwethaf, a gyda’u teuluoedd. Roedd y delweddau yn wirioneddol erchyll a byddant gyda llawer o bobl am weddill eu bywydau. Mae angen i ni sicrhau nad oes unrhyw beth tebyg yn digwydd yn unrhyw le yn y DU eto.
Rwy'n falch eich bod wedi cael trafodaethau gyda landlordiaid cymdeithasol. Fe wnaethoch chi ddweud yn gynharach nad yw cladin o'r math a ddefnyddiwyd ar Dŵr Grenfell a'r cladin sy'n dod yn gynyddol fwy tebygol iddo achosi i’r tân ledaenu mor gyflym wedi cael ei osod ar adeiladau yng Nghymru. Rwy’n meddwl eich bod yn iawn yn dweud hynny. Fodd bynnag, mae angen i ni fod yn gwbl glir fod y cladin sydd wedi ei ddefnyddio mor ddiogel ag y gall fod. Ydych chi’n hyderus, o’ch trafodaethau—ac rwy’n gwerthfawrogi ei bod hi’n ddyddiau cynnar—bod y mathau eraill o gladin a ddefnyddiwyd yn briodol? A gaf i ategu galwad David Melding am archwiliad o'r deunyddiau sydd wedi cael eu defnyddio? Oherwydd ni fyddai llawer o ddeunyddiau o bosib mor ddrwg neu mor fflamadwy â'r rheini sydd yn Nhŵr Grenfell, ond bydd gan ddeunyddiau eu lefel o fflamadwyedd. Felly, mae angen i ni fod yn sicr y bydd y deunyddiau hynny, mewn unrhyw sefyllfa o dân a gwres, mor ddiogel ag y bo modd ac na fyddant yn lledu tân yn yr un ffordd a ddigwyddodd yr wythnos diwethaf.
Yn ail, nid dim ond y deunyddiau eu hunain a oedd ar fai. Unwaith eto, mae'n edrych yn gynyddol wir bod a wnelo hynny â’r ffordd y’u gosodwyd nhw ar yr adeilad: ar fframwaith, a chyda bwlch rhwng deunydd a ffasâd yr adeilad gwreiddiol. Yn y sefyllfa honno, gall y bwlch sydd wedi ei greu arwain at greu effaith twndis—simnai. Mae'n ymddangos fel bod y tân mewn gwirionedd wedi lledaenu i fyny y tu ôl i'r cladin ar ôl iddo losgi drwyddo, ac yna cyrraedd lefelau uchaf yr adeilad. Felly, mae o’n fwy na dim ond y cladin; mae o ynglŷn â’r ffordd mae'n cael ei osod hefyd. Felly, allwch chi sicrhau bod unrhyw archwiliad yn edrych ar y ffordd mae cladin wedi ei osod ar adeiladau yng Nghymru?
A gaf i yn olaf alw am adolygiad? Rwy'n credu i Bethan Jenkins—ac Aelodau eraill—alw am adolygiad o'r rheoliadau adeiladu yng Nghymru. Nid dweud yr wyf i fod yna unrhyw beth o'i le ar y rheoliadau sydd gennym ni, ond rwy'n credu bod hon yn sefyllfa sy'n symud yn gyflym ac y byddwn yn croesawu unrhyw wersi y gellir eu dysgu o drasiedi yr wythnos diwethaf, a'r newidiadau y gellir eu gweithredu yma er mwyn sicrhau nad yw hynny'n digwydd eto. Fel y dywedodd Lynne Neagle, mae angen ar hyn o bryd—ac rydym yn gwerthfawrogi'r ffaith bod mwy o chwistrellwyr wedi eu gosod mewn adeiladau yng Nghymru nag sy’n wir am y math yma o adeiladau, yn sicr, yn Llundain ac yn Lloegr—ond mae angen rhoi sicrwydd i bobl sy'n byw yn y fflatiau hynny, a gyda landlordiaid cymdeithasol, eu bod yn byw mewn diogelwch. Yn olaf, mae angen i ni edrych ar y canllawiau hefyd. Credaf, yn achos yr wythnos diwethaf, y dywedwyd wrth bobl am aros yn eu cartrefi. Mae’n bosib nad hynny oedd y cyngor cywir. Fe wn i bod gennym ni systemau chwistrellu yma, sy'n gwneud y sefyllfa'n wahanol, ond allwch chi edrych ar y canllawiau fel y gall pobl fod yn gwbl hyderus eu bod yn gwneud y peth iawn os a phan fydd trasiedïau fel hyn yn digwydd?