Part of the debate – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 20 Mehefin 2017.
Diolch. Fel y nodais yn gynharach, rwy’n cytuno gyda'r Aelod mewn perthynas â gwneuthuriad cyfansoddiad y deunyddiau, ac rwyf wedi gofyn am gymryd samplau o bob un o'r adeiladau lle mae deunydd ynysu—adeiladau aml-lawr—ar gyfer eu harolygu. Byddant yn cael eu profi, beth bynnag y gwyddom ni am y cynnyrch yn barod, er y gwyddom ni nad y system a ddefnyddiwyd yn Llundain yw’r un yn ein gwasanaethau ni. Serch hynny, er mwyn rhoi hyder i bobl yng Nghymru, rwy’n credu y dylem ni wneud hynny o leiaf.
O ran y rheoliadau adeiladu, byddwn o blaid bod yn gryfach mewn rhai achosion o ran datblygu ein rheoliadau adeiladu. Maen nhw wedi cael eu hadolygu'n ddiweddar, ond rwy'n siŵr y caiff y Gweinidog a minnau sgyrsiau pellach ynglŷn â sut y gall fod angen i ni eu cryfhau nhw yn dilyn adolygiad o'r arolygiaeth gwasanaeth tân.
O ran systemau chwistrellu, mae'r aelodau hefyd yn iawn i godi'r mater hwn. Bydd yr Aelod yn gwybod y cefais i fy meirniadu'n llym am gyflwyno mwy o fiwrocratiaeth i'r system ac am gyflwyno mwy o gostau i'r system, gan adeiladwyr a phobl eraill â diddordeb. Doeddwn i ddim yn difaru bryd hynny a dydw i ddim yn difaru nawr—dyma'r union reswm pam bod angen i ni sicrhau bod gennym ni adeiladau diogel i bobl, a systemau chwistrellu yw'r ateb. Gobeithio y bydd rhannau eraill o'r wlad yn ystyried hynny hefyd.
O ran y canllawiau a gyhoeddwyd, rydym ni’n hyderus y bydd y canllawiau a gyhoeddwyd gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ac awdurdodau lleol yn briodol lle mae’r fframwaith adeiladu yn gweithredu'n briodol. Yr hyn a welsom ni yn Nhŵr Grenfell, lle y dywedwyd wrth drigolion am aros yn eu fflatiau, oedd y byddai hynny wedi bod yn iawn petai’r drysau tân yn gweithio'n iawn, neu’r drysau tân wedi eu gosod yn gywir. Mae llawer iawn o fanylion i ddod o'r ymchwiliad i Dŵr Grenfell, ond mae ein canllawiau ac arferion yn cael eu hadolygu a byddwn yn ystyried hynny wrth inni symud ymlaen.