Part of the debate – Senedd Cymru am 3:32 pm ar 20 Mehefin 2017.
A gaf i ddiolch i arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig am ei sylwadau? A gaf i ddweud wrtho: gwrandewais ar yr hyn a ddywedodd am geisio cyrraedd safbwynt cyffredin, ond byddai'n sicr yn fy helpu i pe bawn i’n deall beth yw ei safbwynt ar rai o'r agweddau mwyaf sylfaenol? Rwy’n gwybod ei fod yn rhywun a oedd yn credu y dylai'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae hynny yno i bawb ei weld. Ond a yw'n credu y dylem gadw mynediad llawn a dilyffethair i’r farchnad sengl? A yw'n gwrthod unrhyw syniad o rwystrau â thariff neu heb dariff? A yw'n derbyn bod angen efallai i addasu rhyddid i symud, ond nid ei atal yn gyfan gwbl? Beth yw ei farn am y ffin rhwng y gogledd a'r de yn Iwerddon? Beth yw ei farn, yna, am y ffin forol rhwng Cymru ac Iwerddon a sut y byddai hynny’n gweithredu? Beth yw ei farn am i’r DU fod oddi mewn i'r undeb tollau neu’r tu allan? Os yw y tu allan i'r undeb tollau, ni all y ffin honno â’r DU ac Iwerddon weithredu fel ffin ddi-dor. A yw'n credu y dylai’r trefniadau trosiannol, ac fe fydd eu hangen, olygu y dylem ystyried aelodaeth o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, neu aelodaeth o ardal masnach rydd Ewrop yn y tymor byr? Nid wyf wedi ei glywed yn mynegi barn am ddim un o’r cwestiynau hyn. Rwy'n ei wahodd i wneud hynny, ond yr hyn yr wyf yn ei wybod yw ei fod am adael yr Undeb Ewropeaidd ac mae hynny'n glir. Yr hyn nad wyf yn ei wybod yw beth, ar hyn o bryd, y mae'n disgwyl ei weld yn ei le.
O ran y Papur Gwyn, y Papur Gwyn yw’r papur ar y cyd rhyngom ni a Phlaid Cymru o hyd. Gofynnodd yn benodol, 'Ble mae'r anghytundeb?' Yn gyntaf oll, tôn. Roedd yr hyn a welsom gan Brif Weinidog y DU cyn yr etholiad yn dôn genedlaetholgar. Ni allaf ei disgrifio mewn unrhyw ffordd arall. Y math o dôn a welsom gan bobl a ddywedodd wrthym y byddai'r UE yn disgyn wrth ein traed er mwyn cael bargen. Roedd hynny'n anghywir ac rydym yn gweld hynny nawr. Gwrthododd y pleidleiswyr y dôn honno, ac nawr mae'n amser ei newid. Yn gyntaf, nid wyf yn credu bod dim bargen yn well na bargen wael. Rwy’n meddwl bod hynny’n hurt. Dim bargen yw’r fargen waethaf. Ac nid wyf yn credu, os nad oes cyfnod pontio, bod hynny’n rhywbeth na ddylem ei ofni. Ni allaf ddeall pam mae’r angen dybryd hwn i ddisgyn oddi ar ymyl clogwyn pan fo pont ar gael inni gerdded drosti, sef aelodaeth o’r AEE neu aelodaeth o EFTA.
Nid wyf yn cytuno â’i syniad hi bod yn rhaid i ryddid i symud ddod i ben yn gyfan gwbl. Unwaith eto, ni allwch reoli eich ffiniau heb gau’r ffin â Gweriniaeth Iwerddon. Does dim ffordd arall o wneud hynny. Ac mae hynny'n rhywbeth nad yw pobl wedi’i ddeall eto. Nid wyf yn cytuno felly â’i safbwynt hi ar hynny. Nid wyf yn cytuno â hi, rywsut, na fyddai'r DU yn ddarostyngedig i unrhyw fath o lys y tu allan i'r DU. Wrth gwrs y byddai. Hyd yn oed pan oedd y DU mewn sefyllfa i lofnodi cytundeb masnach rydd gyda gwlad arall neu floc masnachu arall, byddai angen llys o hyd i feirniadu anghydfodau a fyddai’n codi o'r cytundeb masnach rydd; mae'n siŵr o ddigwydd. A byddai hynny'n golygu cael llys, o leiaf, pe bai cytundeb masnach rydd ar ryw adeg â'r UE—llys sy'n cynnwys o bosibl barnwyr Llys Cyfiawnder Ewrop a barnwyr o’r DU, a fyddai'n gyfystyr â llys masnach. Does dim dianc rhag hynny. Os ydych am gael cytundeb masnach rydd, mae’n rhaid ichi dderbyn y bydd gan bobl eraill hefyd farn am sut y mae’r cytundeb masnach rydd hwnnw’n gweithredu mewn gwirionedd.
Nid wyf yn gwybod beth yw safbwynt y DU erbyn hyn, a dweud y gwir. Ni fu dim ymgysylltu â'r gweinyddiaethau datganoledig. Rydym yn gwybod na all fod yr un fath ag yr oedd cyn yr etholiad. Rydym yn gwybod mai safbwynt y DU oedd ei bod yn dymuno i fater y DU yn gadael yr UE, a pherthynas y DU â'r UE yn y dyfodol, i gael eu trin yn gyfochrog. Safbwynt yr UE oedd y dylai fod yn ddilyniannol. Rydym yn clywed nawr mai safbwynt yr UE sydd wedi ennill y dydd—bydd y trafod yn ddilyniannol. Felly, mae’r tir hwnnw eisoes wedi’i ildio. Yr hyn a oedd yn ôl pob tebyg yn mynd i arwain at ffrae fwyaf yr haf, i ddyfynnu David Davis, nid yw hynny'n mynd i ddigwydd.
Rwy’n croesawu’r hyn a ddywedodd am y Cydbwyllgor Gweinidogion, a'r ffaith nad yw bellach yn addas at ei ddiben. Ond mae mater sylfaenol arall yma yr wyf yn credu y bydd y Bil diddymu mawr yn ceisio ymdrin ag ef, ac mewn ffordd sy'n negyddol. Sef, os bydd pwerau mewn meysydd datganoledig yn dychwelyd o Frwsel, ni fyddant byth yn cyrraedd Whitehall, byddant yn dod yn syth yma. Roedd y Bil diddymu mawr, rydym yn credu—wel, yn sicr, cyn yr etholiad—yn mynd i geisio newid y setliad datganoli, heb gyfeirio at bobl Cymru, i atal hynny rhag digwydd. Mae honno'n egwyddor gyfansoddiadol sylfaenol. Ac ni allem dderbyn unrhyw sefyllfa a fyddai'n diystyru’r farn a fynegwyd yn glir gan bobl Cymru yn 2011. Byddai'n llawer mwy synhwyrol pe baem yn dweud yn syml, 'Iawn, mae’r pwerau hynny’n mynd i'r gweinyddiaethau datganoledig, ond dewch inni gytuno i beidio â gwneud dim byd â nhw, hyd nes y gallwn roi fframwaith cyffredin ar waith.' Y dewis arall yw sefydlu’r fframwaith cyffredin hwnnw, ac mae hynny'n rhywbeth na allem gytuno ag ef, oherwydd byddai hynny'n gwrthdroi rhan o'r setliad datganoli sy’n gwbl hanfodol. Rydym yn aros i weld beth fydd y Bil diddymu mawr yn ei ddweud mewn gwirionedd, ond yn amlwg mae yma broblem i Gymru.
Y mater arall, wrth gwrs, y soniais amdano yn y datganiad yw, er ei fod yn hanfodol inni, os ydym yn edrych ar fasnach, nid yw masnach wedi'i ddatganoli. Does dim dadl am hynny. Ond, er enghraifft, pe bai’r DU yn arwyddo cytundeb masnach rydd gyda Seland Newydd, mae gan Gymru fudd enfawr yn hynny, oherwydd y byddai llawer mwy o gig oen o Seland Newydd yn cyrraedd y farchnad yn y DU. Yn amlwg, mae gennym farn gref am hynny—nid yw’n rhywbeth y byddem yn ei groesawu. Felly, mae'n rhaid cael mecanwaith hefyd i sicrhau bod safbwyntiau’r gweinyddiaethau datganoledig o leiaf yn cael eu hystyried pan fydd y DU yn ceisio cyd-drafod cytundebau masnach rydd, lle byddai cytundeb o'r fath yn cynrychioli anfantais negyddol i wledydd fel Cymru. Bydd yna enghreifftiau eraill sy'n effeithio ar wahanol rannau o wahanol wledydd yn y DU mewn gwahanol ffyrdd, ond mae'r rhain yn gwestiynau sylfaenol y mae angen eu hateb. Rydym wedi ceisio cael yr atebion hynny, a byddwn yn ei wahodd i fynegi barn ar y materion hynny yr wyf wedi’u hamlinellu eisoes, er mwyn inni ddeall yn llawnach beth yw ei feddyliau ers canlyniad y refferendwm y llynedd.