Part of the debate – Senedd Cymru am 4:36 pm ar 20 Mehefin 2017.
A gaf i ddiolch i Darren am ei groeso eang ar gyfer y cyfeiriad teithio a amlinellir yn y Papur Gwyn? Mewn ymateb i lawer o'r cwestiynau y mae wedi eu codi, yr holl bwynt o gael Papur Gwyn ac ymgynghoriad yw oherwydd ein bod yn awyddus i geisio cael amrywiaeth eang o safbwyntiau ar y meysydd hyn.
Yn gyntaf oll, os caf i ddechrau drwy fynd yn ôl, rwyf am ddechrau gyda'r chweched dosbarth a byddwch yn ymwybodol nad yw'r cwestiwn yn y papur yn rhoi cynnig pendant ynglŷn â sut y gallai’r chweched dosbarth fod yn rhan o’r patrwm. Dywedodd Ellen Hazelkorn, yn ei hadroddiad, y byddai darpariaeth y chweched dosbarth, yn y rhan fwyaf o systemau, yn gorwedd y tu allan i PCET, ond mae yn rhan o addysg a hyfforddiant ôl-orfodol. Felly, y cwestiwn yw: a ydym ni eisiau gwneud y rhan benodol hon o PCET yn ddarostyngedig i wahanol fath o drefn, un sy'n cael ei goruchwylio gan Estyn yn y bôn, ac sy’n rhan bwysig o'r system ysgolion, neu a ydym ni’n ei gweld fel yr hyn yw hi—sef rhan o addysg a hyfforddiant ôl-orfodol? Felly, mae yna ddadl ddilys i'w chael am sut y gall darpariaeth y chweched dosbarth gael ei rheoleiddio orau.
Ond, gadewch i mi fod yn gwbl glir nad yw hyn yn ymwneud â dweud nad ydym ni’n mynd i gael chweched dosbarth, ac nid yw hyn yn ymwneud â dweud ein bod yn symud i fodel trydyddol. Mae hyn yn ymwneud â dweud, ar gyfer y rhai grwpiau arbennig o ddysgwyr hynny: sut y gall eu buddiannau—sut y gallwn ni ofalu amdanyn nhw a darparu cyfleoedd yn y modd hwnnw a fydd yn sicrhau ansawdd a’r materion yn ymwneud ag amcanion, gwneud yn siŵr bod pobl yn gwneud y cwrs iawn ar yr adeg iawn? Ceir cyfle gwirioneddol i roi adborth ar hynny.
Mae llais y myfyrwyr yn bwysig iawn i mi ar bob lefel. Rwy'n credu bod gwleidyddion o bob math wedi bod yn euog yn y gorffennol o ystyried myfyrwyr fel, efallai, pobl 18 mlwydd oed nodweddiadol sy'n gadael yr ysgol, sy'n cwblhau eu safon A ac yn mynd i ffwrdd i'r brifysgol. Yr hyn a wyddom, a'r hyn y mae ein heconomi yn galw amdano, yw bod angen i bobl allu cael gafael ar gyfleoedd am hyfforddiant ac addysg drwy eu holl fywyd, a bydd pobl yn gwneud gwahanol ddewisiadau o ran pryd y mae astudio yn iawn ar eu cyfer nhw—byddan nhw’n gorfod ei gyfuno â chyfrifoldebau gofalu yn aml, efallai. Felly, mae amrywiaeth yn llais y myfyrwyr yn bwysig iawn, ac rydym yn cydnabod, fel Llywodraeth Cymru, wrth i ni geisio symud tuag at system newydd o gymorth i fyfyrwyr a fydd yn rhoi cydraddoldeb i israddedigion pa un a ydynt yn astudio’n llawn amser neu’n rhan-amser, neu pa un a ydyn nhw’n israddedigion neu’n ôl-raddedigion. Rydym ni’n cydnabod yr amrywiaeth yn hynny.
O ran y mater o newidiadau yn Lloegr, mae’n rhaid i mi ddweud wrth yr Aelod fy mod i’n bryderus iawn am y newidiadau sy'n deillio o ddeddfwriaeth newydd yn Lloegr a'r hyn y gallai hynny ei olygu i ni. Felly, er enghraifft, o ran Ymchwil ac Arloesedd y DU, mae’r Aelod yn dweud, 'Rhowch enghraifft i mi o pam y dylech chi bryderu am hyn.' Mae anhyblygrwydd llwyr y Gweinidog blaenorol, ac rwy'n credu mai ef yw’r Gweinidog o hyd—mae Jo Johnson wedi ei ailbenodi— i gydnabod y dylai fod cynrychiolydd o Gymru ar y corff hwnnw, ac, yn wir, y dylai fod cynrychiolydd o’r Alban ar y corff hwnnw, yn fy llenwi â phryder. Mae’r ffaith na fydd pob Llywodraeth ddatganoledig yn cael ei chynrychioli ar y corff hwnnw yn achos pryder i mi.
Rydym ni’n gofyn am lawer iawn gan y bobl hyn sy'n ymwneud ag Ymchwil ac Arloesedd yn y DU (UKRI). Y rhan fwyaf o'r amser, corff Lloegr yn unig fydd hwn—byddan nhw’n meddwl am anghenion Lloegr yn unig. Ond, o bryd i'w gilydd, bydd yn rhaid iddyn nhw newid eu ffordd a bydd yn rhaid iddyn nhw feddwl am fodel y DU. Ac, mae hyn yn llawer i’w ofyn gan rywun. Mae hyn yn llawer i’w ofyn gan bobl. Rwy'n credu bod angen i ni sicrhau ein bod yn diogelu ein buddiant. Mae’n rhaid inni hefyd gydnabod, wrth sicrhau bod arian ar gael, efallai bod y cyfeiriad strategol a'r blaenoriaethau ar gyfer y corff hwnnw yn gwasanaethu economi Lloegr, ond nid dyna o reidrwydd sydd ei angen arnom ar gyfer ein heconomi ni nac ar gyfer anghenion ymchwil ein heconomi ni. Ni allwn ni wrthod bod yn gyfrifol am hynny, a dyna pam rwyf i’n hynod ofalus a pham rwyf i’n teimlo bod angen i ni geisio gwarchod buddiannau Cymru yn y maes penodol hwn.
Nid wyf yn dweud am funud na all ein sefydliadau gystadlu am y cyllid hwn. Yr hyn yr wyf yn ei ddweud yw bod angen i ni warchod buddiannau Cymru a rhoi ein hunain yn y sefyllfa gryfaf i fanteisio ar y materion hyn, gan fod ymchwil yn gwbl hanfodol i ni fel Llywodraeth, ac yn hanfodol i ni fel cenedl. Mae angen i ni wneud yn siwr bod ymchwil yn rhan annatod o waith y corff penodol hwn. A gaf i ei gwneud yn glir nad yw hyn yn ymwneud â chamu ar yr egwyddor bwysig iawn o annibyniaeth sefydliadol na gwarantu rhyddid academaidd? Mae'r rheini yn agos iawn i’m calon i. Ond bydd y comisiwn yn adeiladu ar gryfderau presennol ac yn annog mwy o waith ymchwil ac arloesedd mewn cwmnïau a sefydliadau eraill, oherwydd os ydym ni’n onest, nid ydym yn y lle y byddem yn dymuno i Gymru fod ynddo, yn enwedig o ran buddsoddiad gan y sector preifat mewn ymchwil ac arloesedd. Nid ydym yn y lle yr hoffem fod ynddo. Mae angen safbwynt newydd ar hyn a dyna pam yr wyf i wedi gwahodd, ynghyd â'm cydweithwyr, ymchwiliad Reid i edrych ar yr hyn y byddai orau i ni ei wneud, ac mae hyn yn eistedd ochr yn ochr â'r darn penodol hwn o waith.
Cododd yr Aelod y broblem o ddyblygu hefyd. Wel, diben cael un corff yn y modd hwn yw ceisio sicrhau ein bod yn symud i ffwrdd o broblemau sy’n ymwneud â dyblygu a dryswch. A phroblemau sy’n ymwneud ag ansawdd, unwaith eto, gadewch i ni fod yn gwbl glir: oherwydd newidiadau sydd wedi digwydd dros y ffin, mae'n rhaid i ni achub ar y cyfle hwn i weld a oes angen i ni amddiffyn ein hunain i sicrhau ansawdd. Felly, er enghraifft, ar hyn o bryd, gall myfyriwr wneud cais i sefydliad yn Lloegr nad oes ganddo bwerau dyfarnu graddau. Felly, gallech ddechrau, fel myfyriwr mewn sefydliad—. Oherwydd y marchnadeiddio yn y sector penodol, gallech ddechrau ar gwrs heb wybod pa un a fydd y cwrs hwnnw yn arwain at radd gan nad oes gan y sefydliad hwnnw bwerau dyfarnu graddau. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod materion o’r fath ac ansawdd a sicrwydd i fyfyriwr yn sylfaen i’n system, ac mae'r Papur Gwyn hwn yn rhoi cyfle i wneud yn siŵr ein bod hynny gennym.