Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 21 Mehefin 2017.
Wel, rwy’n deall bod gennym arenâu yng Nghaerdydd sy’n dal hyd at oddeutu 80,000 o bobl, ond rydym yn siarad, dyweder, am ddigwyddiadau cerddorol mawr ac ati. A fyddai Llywodraeth Cymru yn agored i’r posibilrwydd o helpu i ariannu arena fawr ar gyfer y math hwn o beth, gan nad yw’n iawn fod gennym Gymry yn ninas Caerdydd, un o’r dinasoedd sy’n tyfu gyflymaf yn Ewrop, yn gorfod mynd i Birmingham neu Fanceinion neu Lundain er mwyn profi peth o’r adloniant gorau—adloniant cerddorol—sydd ar gael?