Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 21 Mehefin 2017.
Mae gennym eisoes nifer helaeth o gyfleusterau yn y brifddinas, ac wrth gwrs, cyn bo hir bydd gennym y ganolfan gynadledda fwyaf a gorau yn ne-orllewin y DU, ond mae bwlch ar ôl yn y farchnad y gallai arena newydd fynd i’r afael ag ef a’i lenwi, ac mae fy swyddogion yn parhau i weithio gyda chyngor Caerdydd wrth iddynt graffu ar wahanol opsiynau, ac ymhen y rhawg, rwy’n siŵr y daw darlun cliriach i’r amlwg o ran yr hyn yr hoffai cyngor dinas Caerdydd ei gyflawni ar gyfer Caerdydd.