<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 21 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:48, 21 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

A allai Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â’n sefyllfa o ran penderfyniad ynghylch Cylchffordd Cymru? Dywedodd y Prif Weinidog, ar 6 Mehefin, ei fod yn disgwyl penderfyniad gan y Cabinet o fewn pythefnos—felly, erbyn ddoe. Os nad yw wedi bod yn bosibl hyd yma, a all roi dyddiad inni ar gyfer pa bryd y bydd y Cabinet yn cael y drafodaeth honno, ac a gawn barhau i ddisgwyl cyhoeddiad ynglŷn â’r penderfyniad hwnnw cyn diwedd y mis? A allai ddweud hefyd a yw wedi penderfynu a yw’n barod i rannu’r diwydrwydd dyladwy allanol a gyflawnwyd gan lefarwyr y gwrthbleidiau, fel y gofynnom? Bydd penderfyniad cadarnhaol, wrth gwrs, yn rhwymo gweinyddiaethau o wahanol liwiau gwleidyddol yn y dyfodol, o bosibl, ac felly byddai’n ymddangos y dylid cynnwys pleidiau gwleidyddol eraill yn y broses o wneud penderfyniadau ynglŷn â’r prosiect hwn. Deallaf gan y cwmni na fyddai ganddynt unrhyw wrthwynebiad i hyn gael ei wneud ar sail cyfrinachedd masnachol.