<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 21 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:49, 21 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Bydd y Cabinet yn gwneud y penderfyniad ddydd Mawrth nesaf, ac rwy’n bwriadu sicrhau bod yr Aelodau’n cael gwybod am y penderfyniad hwnnw cyn gynted â phosibl wedi hynny. O ran yr adroddiadau diwydrwydd dyladwy, nid un ohonynt sydd; mae yna sawl un. Mae hwn yn fater rydym yn ei ystyried ar hyn o bryd: pa un a ellir cyhoeddi’r diwydrwydd dyladwy, nid yn unig ar gyfer yr Aelodau ond ar gyfer cynulleidfa ehangach. Mae’n rhywbeth yr hoffem ei drafod gyda’r datblygwyr eu hunain, wrth gwrs.