Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 21 Mehefin 2017.
Credaf fod y Prif Weinidog a minnau wedi bod yn glir, wrth benderfynu ar Gylchffordd Cymru, fod yn rhaid i’r prosiect sefyll ar ei draed ei hun; mae’n rhaid iddo ddarparu ar gyfer pobl Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd; ac mae’n rhaid iddo fodloni’r meini prawf a nodwyd gennym yr haf diwethaf, lle mae o leiaf 50 y cant o’r cyllid yn dod o’r sector preifat, a bod o leiaf 50 y cant o’r gwarantau, neu’r risg, yn cael ei ysgwyddo gan y sector preifat hefyd. Mae angen i ni ystyried y gwerth am arian, y swyddi sy’n debygol o gael eu creu, a hyfywedd a chynaliadwyedd y prosiect, nid yn unig yn ystod y gwaith adeiladu, ond am sawl degawd. Mae pob un o’r rheini’n cael eu hystyried fel rhan o’r gwaith sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd yn y cyfnod cyn penderfyniad y Cabinet yr wythnos nesaf. Mae’r prosiect, fel y gŵyr yr Aelod, wedi esblygu sawl, sawl gwaith dros y pump i chwe blynedd diwethaf, ac er bod adolygiadau blaenorol wedi’u cynnal, a gwerthusiadau wedi’u cwblhau, byddent yn ymwneud â modelau busnes blaenorol.