<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 21 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:51, 21 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Os cawn symud, yn olaf, at brosiect mawr arall, a allai Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â’r prosiect ffowndri a chlwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd a gyhoeddwyd fel rhan o fargen ddinesig dinas-ranbarth Caerdydd? Deallaf fod tîm y dinas-ranbarth yn cynnal trafodaethau gyda’ch tîm eiddo eich hun ynglŷn â chaffael yr adeilad pacio a phrofi ar hen safle LG, sydd wedi bod yn wag ers 1996. Nawr, mae’r prosiect hwn yn gysylltiedig, yn ôl ffynonellau yn y diwydiant, â chontract pwysig gydag IQE ar gyfer ei dechnoleg cell ceudod fertigol, a fydd yn rhan hanfodol o’r camera synhwyro 3D yn yr iPhone 8 newydd, ac mae ganddo botensial enfawr—potensial trawsnewidiol—ar gyfer economi Cymru. Dywedir wrthyf fod y ffaith fod y Llywodraeth wedi bod yn bargeinio a llusgo’i thraed dros delerau caffael yr adeilad gwag hwn wedi golygu bod y cwmni bellach wedi gorfod paratoi cynllun B, a fyddai’n cynnwys gweithgynhyrchu yn eu cyfleusterau yng Ngogledd Carolina, gan arwain, o bosibl, at golli miloedd o swyddi i economi Cymru. Y pedwerydd ar ddeg o Orffennaf—cyfarfod nesaf Cabinet dinas-ranbarth Caerdydd—yw’r terfyn amser pendant ar gyfer gwneud penderfyniad. Felly, a allai Ysgrifennydd y Cabinet roi sicrwydd inni ei fod yn derfyn amser na fyddwn yn ei fethu ar unrhyw gyfrif?