Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 21 Mehefin 2017.
Dyma un o’r prosiectau pwysicaf ar fy nesg ar hyn o bryd. Mae’n gyfle enfawr, nid yn unig i Gasnewydd, nid i’r dinas-ranbarth, ond i Gymru gyfan. Mae’n cynrychioli ein symud, ein trawsnewid, i economi’r unfed ganrif ar hugain, lle bydd awtomeiddio, lle bydd roboteg, lle bydd technoleg gwybodaeth yn dod yn fwyfwy pwysig. Mae fy swyddogion mewn cysylltiad ag IQE, ond rwyf finnau hefyd, yn bersonol, gyda golwg ar sicrhau bod y cyfle anhygoel hwn yn cael ei wireddu ar gyfer Casnewydd ac ar gyfer gweddill Cymru.