<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 21 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 2:47, 21 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rydym i gyd yn gwybod bod canfod canser yn gynnar yn hanfodol i oroesiad claf, a dyna pam fod y rhaglenni sgrinio mor bwysig. Os ceir diagnosis o ganser y coluddyn ar gam cynharach, bydd mwy na naw o bob 10 o bobl yn cael eu trin yn llwyddiannus. Dylai sgrinio leihau nifer y bobl sy’n marw o’r clefyd, sy’n lladd tua 1,000 o bobl yng Nghymru bob blwyddyn. Mae llawer o bobl yn teimlo bod y prawf presennol yn rhy gymhleth, a dyna pam rwy’n eich llongyfarch am gyflwyno prawf imiwnogemegol ysgarthol sy’n symlach ac yn fwy cywir. Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â sut y mae’r broses o gyflwyno’r prawf newydd yn dod yn ei blaen os gwelwch yn dda?