Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 21 Mehefin 2017.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae Cymru wedi penderfynu gosod trothwy sensitifrwydd llawer uwch ar gyfer y prawf sgrinio imiwnogemegol ysgarthol. Er ei fod yn is na’r lefel a osodwyd yn Lloegr, mae’n ddwywaith y lefel a osodwyd yn yr Alban, ac wyth gwaith yn uwch na’r trothwy a osodwyd mewn mannau eraill yn Ewrop. Mae Ymchwil Canser y DU yn datgan mai’r rheswm dros y trothwy llawer uwch yw’r diffyg capasiti endosgopi yma yng Nghymru. Yn rheolaidd, mae oddeutu 1,000 o gleifion yn aros mwy nag wyth wythnos am golonosgopi yng Nghymru. Os ydym am fanteisio i’r eithaf ar y prawf imiwnogemegol ysgarthol, mae’n rhaid i ni gynyddu capasiti endosgopi. Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau rydych yn eu cymryd i gynyddu capasiti ac a wnewch chi ystyried gostwng y trothwy sgrinio imiwnogemegol ysgarthol pan fydd gennym ddigon o gapasiti colonosgopi?