Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 21 Mehefin 2017.
Ein blaenoriaeth yw mabwysiadu ymagwedd ataliol i fynd i’r afael â gordewdra ymysg plant. Rydym yn gwneud hyn drwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys ymgyrchoedd, rhaglenni a deddfwriaeth.
Mae enghreifftiau’n cynnwys ein rhaglen Teithiau Llesol, rhaglenni Plentyn Iach Cymru ac ymgyrch 10 Cam i Bwysau Iach Iechyd Cyhoeddus Cymru.