Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 21 Mehefin 2017.
Diolch yn fawr, Gweinidog. Ardal bwrdd iechyd Cwm Taf sydd â’r cyfraddau gwaethaf o ordewdra ymysg plant yng Nghymru. Mae mwy nag un o bob pedwar o blant yn fy etholaeth yng Nghwm Cynon yn ordew, ac yn ogystal â pheri heriau iechyd, gwyddom fod hyn yn effeithio hefyd ar eu bywydau cymdeithasol ac addysgol. Gall arferion arloesol a chynhwysol fel y filltir ddyddiol annog gweithgaredd iach, a gwn eich bod chi a’r Ysgrifennydd addysg wedi ysgrifennu llythyr at ysgolion cynradd ym mis Ionawr yn eu hannog i wneud hyn. Pa gynnydd a fu ar y mater hwn?