8. 8. Dadl Plaid Cymru: Gadael yr Undeb Ewropeaidd a Chynulliad Cenedlaethol Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:38 pm ar 21 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 4:38, 21 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rydym yn dathlu’r ffaith mai Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw Senedd genedlaethol Cymru ac rwy’n falch o gynnig gwelliannau 1 a 2, gan nodi bod papur polisi Llywodraeth y DU ym mis Chwefror 2017, ‘The United Kingdom’s exit from, and new partnership with, the European Union’, yn datgan:

rydym eisoes wedi ymrwymo na fydd unrhyw benderfyniadau a wneir ar hyn o bryd gan y gweinyddiaethau datganoledig yn cael eu dwyn oddi wrthynt a byddwn yn manteisio ar y cyfle i ddod â’r broses o wneud penderfyniadau yn ôl i’r DU er mwyn sicrhau bod mwy o benderfyniadau’n cael eu datganoli.

Mae Prif Weinidog y DU wedi dweud yn glir iawn ei bod eisiau cytundeb pwrpasol sy’n gweithio ar gyfer y DU gyfan, gan groesawu’r fasnach fwyaf didariff a dirwystr sy’n bosibl gyda’n cymdogion Ewropeaidd. Fel y dywedodd y Prif Weinidog yn ei haraith yn Lancaster House ym mis Ionawr, byddai bod ar y tu allan i’r UE ond yn aelod o’r farchnad sengl yn golygu cydymffurfio â rheolau a rheoliadau’r UE sy’n gweithredu...y "4 rhyddid" i nwyddau, cyfalaf, gwasanaethau a phobl.

Ychwanegodd:

I bob pwrpas byddai’n golygu peidio â gadael yr UE o gwbl. A dyna pam y dywedodd y ddwy ochr yn ymgyrch y refferendwm yn glir y byddai pleidlais i adael yr UE yn bleidlais i adael y farchnad sengl.

Yn lle hynny, meddai’r Prif Weinidog, rydym yn ceisio cymaint o fynediad â phosibl ati drwy gytundeb masnach rydd newydd, cynhwysfawr, beiddgar ac uchelgeisiol.

Yn fwy diweddar, dywedodd hefyd fod angen i ni sicrhau ein bod yn cael y cytundeb masnach cywir fel y gall ffermwyr barhau i allforio eu cynnyrch i’r Undeb Ewropeaidd, ond hefyd... i fasnachu o amgylch gweddill y byd.

Hyn ac nid Brexit caled yw nod datganedig Llywodraeth y DU wedi bod drwyddi draw. Er, fel y dywedodd y Prif Weinidog, pe baem yn cael gwared ar ein safbwynt negodi ar unwaith drwy wrthod y syniad o gerdded ymaith heb gytundeb, byddai Brwsel wrth ei bodd. Fel y dywedodd y Canghellor y penwythnos diwethaf, byddai peidio â chael cytundeb yn gytundeb gwael, er y byddai un a luniwyd yn bwrpasol i gosbi yn waeth.

Wrth i drafodaethau symud ymlaen yn awr, mae’n fuddiol i’r ddwy ochr gydnabod na all fod ond dau enillydd neu ddau gollwr. Y DU yw partner allforio mwyaf yr UE, gan warantu miliynau o swyddi. Mae o fudd enfawr i’r UE gytuno ar gytundeb masnach rydd cyfeillgar i’r DU a’r UE. Y DU yw partner masnachu mwyaf ond un Iwerddon o ran gwerth, a’r mwyaf o ran cyfaint. Mewn cyfarfodydd gyda chynrychiolwyr o Lywodraeth Iwerddon ddydd Llun, clywodd y pwyllgor materion allanol y dylai mater yr ardal deithio gyffredin gael ei ddatrys heb unrhyw broblem go iawn, ac na fyddai Brexit yn cau’r fantais amser o ddefnyddio pont dir y DU i gael mynediad at farchnadoedd y cyfandir. Fel y dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor y penwythnos diwethaf:

Fe allwn, ac mae’n rhaid inni gyflawni ewyllys y bobl. Gallwn adlewyrchu mandad y mwy na 80% o ASau y mae eu maniffestos wedi’u hymrwymo i gefnogi Brexit.

Os ydym yn ei gael yn iawn, meddai,

(ac mae llawer mwy o ewyllys da ar y ddwy ochr nag y meddyliech), yna gallwn sicrhau partneriaeth ddofn ac arbennig â’r UE; UE cryf wedi’i gadarnhau gan, ac yn cefnogi Teyrnas Unedig gref—ac sy’n dal i fasnachu a chydweithio’n agos â’i gilydd hefyd.

Rydym yn mynd i gyflawni, dywedodd, nid Brexit meddal neu Brexit caled—ond Brexit agored, un sy’n sicrhau bod y DU yn dal i droi tuag allan, ac yn ymwneud mwy â’r byd nag erioed o’r blaen.

Roedd y Prif Weinidog yn llygad ei le. Ni allwch fod yn aelod o’r farchnad sengl heb fod yn aelod llawn. Er bod Jeremy Corbyn a John McDonnell wedi mynnu bod Llafur wedi ymrwymo’n ffurfiol i fynd â Phrydain allan o’r farchnad sengl a’r undeb tollau, dywedodd Ysgrifennydd Brexit yr wrthblaid Lafur y penwythnos diwethaf y dylai’r opsiwn o barhau aelodaeth y DU o undeb tollau’r UE gael ei adael ar y bwrdd. Mae hyn yn groes i reddf gan y byddai’n atal y DU rhag trafod cytundebau masnach ryngwladol y tu allan i’w haelodaeth o’r farchnad sengl, ac fel y clywsom hefyd yn Iwerddon ddydd Llun, gallwch adael yr undeb tollau a pharhau i gael trefniadau tollau wedyn.

I ailddatgan, mae’r Ceidwadwyr Cymreig eisiau fframweithiau wedi’u cytuno ar draws y DU sy’n parchu’r setliad datganoli wrth i gynlluniau a mentrau cyllido gael eu dychwelyd o’r Undeb Ewropeaidd. Rydym yn croesawu’r cadarnhad felly, yn y nodiadau i gyd-fynd ag Araith y Frenhines heddiw, y bydd y Bil diddymu, sy’n trosglwyddo deddfwriaeth bresennol yr UE i gyfraith y DU, yn drefniant trosiannol i ddarparu sicrwydd yn syth ar ôl gadael ac yn caniatáu trafodaeth ac ymgynghori manwl â’r gweinyddiaethau datganoledig o ran ble y mae angen fframweithiau cyffredin parhaol. Rwy’n pwysleisio ein bod yn credu bod yn rhaid cytuno ar y fframweithiau hynny. Diolch.