Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 27 Mehefin 2017.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, y bore yma, gwnaeth y Cabinet y penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen â'r pecyn cyllid ar gyfer Cylchffordd Cymru—ac rwy’n sylweddoli y bydd y Gweinidog yn gwneud datganiad yn ddiweddarach y prynhawn yma. Ddoe, rhoddodd y gwas sifil uchaf yn yr adran dystiolaeth i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, pryd y dywedodd bod gan y prosiect hwn effaith fawr iawn yn y statws a neilltuwyd iddo yn yr adran, a dywedodd hefyd ei fod yn cynnig gwerth am arian—a’i eiriau ef yw’r rhain yr wyf yn eu dyfynnu i chi—ac roedd yn brosiect a oedd yn barod, yn amodol ar gyllid, i gael ei ddarparu.
Nawr, mae Ysgrifennydd y Cabinet, drwy ei ddatganiad y bore yma, yn dweud, mewn gwirionedd, bod yr honiadau ynghylch y prosiect wedi eu gorbwysleisio’n sylweddol, ac yn hanesyddol meddai, prin oedd y dystiolaeth, ar raddfa ryngwladol, bod unrhyw drac ar ei ben ei hun yn gweithredu fel catalydd ar gyfer cyflogaeth leol ychwanegol. Mae’r ddau ddatganiad hynny—gan yr uwch was sifil, a chan Ysgrifennydd y Cabinet—yn gwrthddweud ei gilydd yn llwyr o ran y safbwyntiau y maen nhw’n ceisio eu cyfleu. Pwy sy'n iawn a phwy sy’n anghywir o ran y prosiect hwn?