<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 27 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:38, 27 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Na, dydyn nhw ddim, oherwydd bod cam 2 y prosiect yn cyflwyno parc technoleg. Mae hynny'n rhywbeth y byddwn ni’n bwrw ymlaen ag ef fel Llywodraeth. Dyna'r prosiect a fydd yn darparu’r mwyafrif llethol o'r swyddi. Yn anffodus, ni allai’r amodau i ni eu cyflwyno, cyn belled ag yr oedd y gylchffordd ei hun yn y cwestiwn, gael eu bodloni gan y cwmni dan sylw. Roeddem ni eisiau gwneud yn siŵr bod ganddyn nhw ddigon o amser i geisio bodloni’r amodau hynny, ond, yn anffodus, ni ddigwyddodd hynny.