Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 27 Mehefin 2017.
Diolch. Rwy'n credu bod gennych chi rai cwestiynau pellach i’w hateb am hyn, ond rwy’n deall bod cwestiwn brys yn dod yn ddiweddarach, felly hoffwn eich holi am agwedd arall ar yr economi, ac mae hynny’n ymwneud ag addysg a sgiliau. Mynegwyd llawer o bryderon i mi gan athrawon am eu llwyth gwaith, ac, yn gysylltiedig â hynny, cyfraddau salwch cynyddol. Mae llawer o bobl yn ystyried gadael y proffesiwn nawr. Dywedwyd fod lefelau hyfforddiant athrawon cychwynnol yn ymylu ar argyfwng. A ydych chi’n cytuno?