Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 27 Mehefin 2017.
Nac ydw. Rwy'n meddwl bod cyfleoedd gwych i ni, pan fydd tâl ac amodau wedi eu datganoli, i sefydlu pecyn cyfannol i athrawon i wneud yn siŵr bod y cyfrifoldebau sydd ganddynt yn cael eu hadlewyrchu o ran y cyflog y maen nhw’n ei gael. Mae wedi bod yn anghysondeb rhyfedd erioed bod gennym ni gyfrifoldeb am addysg, ond nid am dâl ac amodau. Mae hynny wrth wraidd darparu cytundeb da i athrawon, a dyna’r ydym ni’n bwriadu ei wneud.