Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 27 Mehefin 2017.
Nid wyf yn credu y byddai'n bosibl cyflwyno’r pecyn cywir tan fod cyflogau ac amodau wedi eu datganoli. Pam? Wel, mae pobl eisiau gwybod beth yw eu telerau cyflogaeth, beth yw eu hamodau cyflogaeth, faint y byddant yn cael eu talu, a pha weithgareddau y byddant yn cael eu talu amdanynt. Mae hynny i gyd yn effeithio, yn amlwg, ar benderfyniad i ymuno â phroffesiwn ac mae hynny, yn y pen draw, yn effeithio ar niferoedd. Nawr, y flwyddyn nesaf, bydd gennym ni’r cyfle a'r cyfrifoldeb o reoli tâl ac amodau athrawon. Rydym ni eisiau gweithio gyda'r undebau athrawon i wneud yn siŵr ein bod ni’n cyflwyno pecyn sy'n gwneud addysgu yn fwy deniadol nag efallai y mae wedi bod i rai pobl yn y gorffennol, ond mae cael rheolaeth o dâl ac amodau yn gwbl hanfodol ar gyfer hynny.