<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 27 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 1:50, 27 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Felly, rydych chi’n ei gicio i ffwrdd i’r dyfodol eto. Mae'r sefyllfa, Prif Weinidog, yn waeth nag yr ydych chi’n barod i gyfaddef. Mae cyfanswm yr athrawon dan hyfforddiant wedi gostwng ym mhob un blwyddyn ers 2011, ac mae'r ohebiaeth a’r sgyrsiau yr wyf i wedi eu cael gydag athrawon yn dangos bod problem ddwys yn y fan yma. O'ch ateb, nid wyf wedi fy argyhoeddi o gwbl bod gennych chi gynlluniau i drin y sefyllfa hon gydag unrhyw syniad o frys. Yr hyn yr wyf i eisiau ei weld yw ein proffesiwn addysgu yn cael ei gefnogi. Pam na wnewch chi siarad ag athrawon a'u hundebau llafur a gofyn iddyn nhw beth y gellir ei wneud yn y tymor byr i helpu gyda'u llwyth gwaith a’u llesiant meddyliol? Rydych chi’n rhoi pethau ar waith nawr, y mae’n bosibl y byddant yn talu ar eu canfed yn y dyfodol, ond mae’r gostyngiad yna i niferoedd wedi bod yn amlwg ers sawl blwyddyn bellach. Nid yw'n broblem newydd. Mae'r argyfwng wedi cyrraedd, ac mae'r argyfwng nawr. Rydych chi wedi cyfaddef yn y gorffennol eich bod chi wedi cymryd eich llygad oddi ar y bêl o ran addysg, a dywedasoch bryd hynny y byddai eich Llywodraeth yn gwella ei pherfformiad. Gan eich bod chi wedi gwneud y cyfaddefiad hwnnw o ran addysg, beth yn union ydych chi wedi bod yn ei wneud?