<p>Dementia</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 27 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Michelle Brown Michelle Brown UKIP 1:55, 27 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Mae dementia yn arbennig o anodd i’r aelodau teulu sy'n rhoi eu bywydau eu hunain ar saib am y tro i ofalu am anwyliaid â dementia. Mae gofalwyr yn blino a dan straen ofnadwy. Mae gofalu am rywun â dementia yn rhywbeth trawmatig iawn i orfod ei wneud oherwydd, i bob pwrpas, rydych chi’n eu gweld nhw’n llithro i ffwrdd fesul darn. Sut ydych chi'n sicrhau bod darpariaeth ddigonol a chyson yn cael ei rhoi ar waith gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd i gefnogi anghenion gofalwyr o'r fath o ran gofal seibiant, cyngor a chwnsela?